Wythnos Codi Ymwybyddiaeth am y Draenog

5-11 Mai 2024

gan ELERI THOMAS
COVER-2024-1

Wythnos Codi Ymwybyddiaeth am y Draenog 5-11 Mai 2024

wythnos-codi-ymwybyddiaeth-1
wythnos-codi-ymwybyddiaeth-2
wythnos-codi-ymwybyddiaeth-3
a-wyddoch-chi-bod-2
IFAN-A-GUTO-2

Dysgu sut i wneud llwybr hawdd yn yr ardd ar gyfer y draenog yn Llyfrgell y Dref.

draenog-5

Gosod gwagle o 13cm x 13cm fel bod y draenog yn medru derbyn mynediad i’r ardd.

NICOLA-DRAENOGOD

Nicola Cascade yn cefnogi’r wythnos ac yn son fod draenog yn byw yn ei gardd ond heb fod yn gweld llawer ohono gan mai creadur y nos yw. Os welwch y draenog yn y dydd y mae’n debygol ei fod yn sal.

LILLIAN-DRAENOGOD

Lillian Perchennog Granny’s Kitchen, yn cefnogi materion yn ymwneud a’r amgylchedd ac yn son fod teulu o ddraenogod ger ei chartref.

Wythnos Codi Ymwybyddiaeth am y Draenog 5-11 Mai 2024

Mae’r draenog bellach wedi dihuno o’i aeafgwsg.

Un Ffaith am y Draenog:

Oeddech chi’n gwybod y gall y draenog eich helpu yn eich ymgais i dyfu llysiau o’r ansawdd uchaf yn eich gardd neu’ch rhandir?

Mae llawer sy’n poeni am yr amgylchedd yn amharod i ddefnyddio plaladdwyr. Mae’r effaith ar fywyd gwyllt yn ddinistriol gan nad yw plaladdwyr yn lladd plâu yn unig, maent hefyd yn gwenwyno anifeiliaid diniwed. Erys rhai plaladdwyr yn y gadwyn fwyd a’r effaith hirdymor heb fod yn hysbys.

Beth am geisio annog plaladdwyr naturiol i’ch gardd yn lle defnyddio cemegau niweidiol?

Gall y draenog gostyngedig eich helpu. Mae’n wych am gael gwared ar blâu gardd fel chwilod, lindys ac infertebra eraill sy’n hoffi bwydo ar eich cnydau.

Yn anffodus, mae nifer y draenogod wedi gostwng yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

A ydych am ddysgu rhagor am y mamal diddorol hwn a sut i’w helpu?

Cynhelir Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Draenogod rhwng ddydd Sul 5 Mai 2024 – ddydd Sadwrn 11 Mai 2024. Cydlynwyd gan Gymdeithas Cadwraeth Draenogod y Deyrnas Unedig.

Dilynwch #hedgehogweek ar y cyfryngau cymdeithasol am gystadlaethau, ffeithluniau ac awgrymiadau gorau seleb yn ystod yr wythnos.

Mae gwneud ein gerddi’n le diogel ar gyfer bywyd gwyllt  yn flaenoriaeth i lawer sy’n poeni am yr amgylchedd.

Dweud eich dweud