Hanes Ardal Llanbed

Mae ardal Clonc360 yn cynnwys y fro rhwng Llanfair Clydogau yn y gogledd a Llanllwni yn y de, gan gynnwys tref Llanbed a Llanybydder.  Dyma ychydig o hanes yr ardal gan Eifion Davies.

Mae’r ardal yn rhan o ddwy sir, sef Ceredigion a Chaerfyrddin. Yn y canol saif tref Llanbedr Pont Steffan, neu Llanbed, – er ar lafar, fel Llambed yr adnabyddir y dre.

Diddorol yw sefyllfa’r pentrefi, bron yn ddi-eithriad yn agos i afon. Rhed y ‘Teifi’ drwy Lanfair, Cellan, Cwmann, Pencarreg, Llanybydder, Maesycrugiau a Llanllwni. Daw’r afon ‘Dulas’ wedyn o Langybi drwy Betws Bledrws a Silian i ymuno â’r Teifi yn Llanbed. Y ‘Grannell’ drwy Capel y Groes a Llanwnnen cyn ymuno â’r Teifi dipyn yn uwch na phentref Alltyblaca; daw’r ‘Cledlyn’ o Gorsgoch drwy Gwrtnewydd, Drefach a Llanwenog i ymuno â’r Teifi yn Rhuddlan; yr eithriad yw pentre Cwmsychbant sy’n sefyll ar y drum rhwng afonydd y ‘Cledlyn’ a’r ‘Clettwr’.

Ardal wledig yn dibynnu yn helaeth ar ffermio, a’r gwaith ynghlwm â ffermio, yn bennaf sydd yma. Ond yn ogystal ymhlith y cyflogwyr mwyaf fe geir: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbed; ‘LAS’ (cwmni ailgylchu gwastraff); nifer o ffatrïoedd bach yn cynnwys swyddfa Golwg ar y stad ddiwydiannol yn y dre’; cwmni cigoedd ‘Dunbia’ yn Llanybydder a gwaith trin coed a masnachwyr T.L.Thomas yn Llanllwni.

I ymwelydd â’r ardal mae na rywbeth yn dal y llygad ar bob hewl. Wrth deithio o Dregaron trwy Langybi fe saif Tŵr y Dderi ar fryn ar y llaw dde. Adeiladwyd fel math o symbol o statws ar dir ‘Inglis Jones’ i roi gwaith i bobl leol, neu i weld Llundain fel y cawsom fel plant ein dysgu! Elizabeth Inglis Jones oedd awdur y gwaith hanesyddol ar blas yr Hafod Peacocks in Paradise’.

O Lanbed i Aberaeron, yr adeilad sy’n dal eich sylw yw Plasty Glynhebog neu’r Falcondale – cyn gartre teulu’r Harford, a fu’n gefnogol iawn i dre Llanbed; gwesty safonol yw erbyn heddiw.

O Lanbed i Gastell Newydd Emlyn, heibio i’r meysydd lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984, saif adfeilion ‘Ffynnonbedr’. Adfeilion sydd yn llawn hanes ac a groniclwyd yn llawn gan ‘Bethan Phillips’ yn ei llyfr Peterwell -The History of a Mansion and its Infamous Squire. (Gwasg Gomer).

Wrth deithio o Lanbed am Landeilo, saif hen Dafarn y Ram; daeth i dipyn o enwogrwydd am fod â’r cwrw gorau yng Nghymru, a bod yr Arlywydd Carter wedi ciniawa yno beth amser yn ôl.

Ar y dde saif mast teledu Pencarreg a dargedwyd fwy nac unwaith ym mrwydr yr iaith. Ar yr hewl droellog o Cwmann am Lanybydder mae Llyn Pencarreg a phlasty Cilyblaidd, cartref y diweddar Miss Molly Phillips a fu’n feirniad Olympaidd ar sglefrio iâ. Heb fod nepell roedd cartref y gwleidydd y diweddar Gwynfor Evans.

Wrth fynd o Llanybydder am Gaerfyrddin ar y llaw dde, gwelir Plas y Dolau neu Highmead, cartref teulu y Bnr. Herbert Evans a’i briod Ann Goch, – Ann oedd un o arweinyddion y datblygiad mawr ym myd ffermio yn y cyfnod cyn diwedd yr 1800. Bu’r plas yn gartref i fyddin Americanaidd yn ystod yr ail ryfel byd, yna’n ysgol breswyl, ac yn ganolfan i Fwslemiaid yn ddiweddarach.

O Lanybydder, dros y mynydd am Landeilo, fe welwn Allt y Mynydd. Adeilad a fu’n ysbyty yn arbenigo ar wella clefyd yr ysgyfaint, sef T.B, ond sydd erbyn heddiw yn gartref i’r henoed.

Ymysg y beirdd cenedlaethol mae: Cledlyn (1875 – 1964) athro a llenor o Cwrtnewydd enillodd y gadair yng Nghorwen yn 1919 a’r Wyddgrug yn 1923; y Parchedig T Eurig Davies enillodd ddwy goron, un yng Aberafan yn 1932 a’r llall yn Nghastell Nedd yn 1934; a Dylan Iorwerth, bardd coronog Llanelli 2000, enillydd y Fedal Ryddiaith 2005 a’r gadair yn 2012- sylfaenydd Golwg a cholofnydd rheolaidd ym Mhapur Bro Clonc.

Ym myd llenyddiaeth daeth Islwyn Ffowc Ellis i ddarlithio i’r Brifysgol yn Llanbed ac ymsefydlodd yn yr ardal. Yn Llanbed hefyd y magwyd Idwal Jones a gofir am ei gerddi digri a’i ddwy ddrama fawr Pobl yr Ymylon ac Yr Anfarwol Ifan Harris.

Ymysg gweinidogion nodedig mae Jacob Davies fu’n weinidog dros Alltyblaca, Capel y Bryn, Cwrtnewydd a Chapel y Cwm, Cwmsychbant; T. Eurig Davies a fu a gofal Capel Soar Llanbed a Bethel Parcyrhos o 1927 hyd 1951. Roedd yn brifardd, yn ysgolhaig ac yn heddychwr. Cyfrannodd y Parchedig T. Oswald Williams yn helaeth i fywyd crefyddol ac i lywodraeth leol yng Ngheredigion.

Yn y fro hon y magwyd John Gwenogfryn Evans, 1852 – 1930. Casglodd ac argraffodd gopïau o’n prif lawysgrifau Cymraeg o’r Oesoedd Canol. (Y Mabinogion o Lyfr Coch Hergest oedd y cyntaf). Bu’n gyfrifol am sicrhau llawysgrifau Peniarth i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth; dyma yn ôl Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru oedd y casgliad unigol pwysicaf o ddeunydd o’i fath, yn cynnwys dros 500 o lawysgrifau Cymraeg.

Ym myd gwyddoniaeth mae Evan James Williams (Desin) 1903 – 1945, yn un o enwogion y fro. Dyma ym marn llawer oedd un o ffisegwyr blaenaf ei gyfnod. Ganwyd yng Nghwmsychbant, addysgwyd yn ysgol gynradd Llanwenog ac ysgol Ramadeg Llandysul. Dywedwyd amdano fod ei ddarganfyddiadau a’i wybodaeth arbennig wedi bod yn gyfrwng i Brydain Fawr fyrhau cwrs yr ail ryfel byd.

Ceir mwy o hanes cewri o’r ardal gan gynnwys John R Evans, Aneurin Jenkins Jones, a Griffith John Williams a’i frawd Mathew Williams, mewn cyfrol a gyhoeddwyd dan olygyddiaeth D.J. Goronwy Evans, sef Deri O’n Daear Ni (Gwasg Gomer), adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984.

Llanbed

Dros y canrifoedd mae llawer wedi gadael eu marc ar y dref a’r ardal. Gwelwn olion y Celtiaid ar gestyll Alltgoch ac Olwen ac mae Sarn Helen yn ymestyn trwy’r cyffiniau. Yn 1188 disgrifiodd Gerallt Gymro ymweliad Esgob Baldwin â’r dref i geisio denu milwyr i’r croesgad.

Bu’r dref yn dyst i ymosodiad gwrthryfelwyr Rebecca ar bont Pontfaen wrth ymladd am gyfiawnder i’r bobl gyffredin. Sonia’r diwygiwr Howell Harries am y croeso dderbyniodd gan drigolion Llanbed. Yn 1822 sefydlwyd y Coleg yn Llanbed ac sydd heddiw â statws Prifysgol.

Mae Llanbed yn ganolfan siopa ddiddorol ac nid oes eisiau mynd yn bellach na’r dre i gyflenwi eich holl anghenion.

Roedd siop B.J.Jones yn enwog drwy Gymru ac yn denu prynwyr i siopau eraill y dref. Mae’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd wedi cyfuno ac yng nghhanol y dref ynghyd â phwll nofio a chanolfan chwaraeon.

Saint-Germain-sur-Moine yw efaill Llanbedr Pont Steffan, a leolir yng ngogledd orllewin Ffrainc.

Mae yna amrywiaeth o ddigwyddiadau yn Llanbed dros y flwyddyn. Digwyddiadau mwyaf i Lambed yw’r carnifal, Gŵyl Fwyd a’r Sioe Amaethyddol heb anghofio Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen.

Cewch fwy o hanes y dref yn A History of Lampeter gan W J Lewis.

Llanybydder

Pentref mawr sy’n cynnal marchnadoedd yn rheolaidd yw Llanybydder. Saif lladd-dŷ Dunbia ar gyrion y pentre ac mae’n rhoi gwaith i niferoedd. Cwmni arall oedd ‘Highmead Dairy’ neu Laethdy’r Dolau oedd yn poteli llaeth a’i ddosbarthu dros ardal eang.

I lawer, pan sonnir am y lle, Evans Bros a’r mart ceffylau ddaw i’r meddwl. Mae’r cwmni o arwerthwyr wedi cynnal ’mart’ ceffylau ar y dydd Iau olaf yn y mis ers blynyddoedd ac yn denu prynwyr o bob rhan o Brydain. Gwerthwyd un enillydd y ‘Grand National’ yma sef ‘Nickel Coin’. Cynhelir arwerthiannau rheolaidd o dda a defaid gyda ffeiriau arbennig fel Ffair Santesau a Ffair Fartin.

Mae Clwb Pysgota Llanybydder yn cynnig tocynnau dyddiol ac wythnosol i bysgota ar y Teifi ac ni bydd angen i chi fynd adre’n waglaw gan fod fferm bysgod nepell o ganol y pentre.

Llangybi

Pentref bach ar y ffordd o Lanbed i Dregaron ac fel y Llangybi yng Ngwynedd mae yma ffynnon i Sant Cybi.

Mae’r ysgol leol, sef Ysgol Y Dderi, yn enghraifft dda o uno ysgolion bach. Caewyd ysgolion Betws Bledrws, Silian, Cellan, Llanfair ac ysgol Llangybi a chael adeilad newydd pwrpasol yn y pentref. Gwnaed hyn bron heb yr un gwrthwynebiad gan fod nifer y disgyblion ymhob un o’r ysgolion wedi lleihau.

Mae yma ddau gapel ac un eglwys. Ar ffordd droellog o Langybi i Lwynygroes adeiladwyd cwrs golff naw-twll, ar dir y Cilgwyn. Diddorol yw cyfraniad Cilgwyn yn hanes crefydd yng Ngheredigion, gan mae yma y sefydlwyd yr eglwys ymneilltuol gyntaf. Bu ysgol yma hefyd lle bu Dafydd Dafis, Castell Hywel, yn ddisgybl. Symudwyd yr hen gapel, garreg wrth garreg, a’i ail-adeiladu yn y pentref. Erbyn heddiw mae’n ganolfan i’r Urdd.

Betws Bledrws

Pentref wedi’i adeiladu o amgylch yr eglwys ac yn rhan o Stad y Dderi yw’r Betws. Mae Tŵr y Dderi yn sefyll 152 troedfedd o uchder, ac roedd yn rhaid dringo 365 o risiau i gyrraedd y top. Nid yw’n ddiogel i’w ddringo heddiw gwaetha’r modd. Gerllaw y fynedfa i’r twr mae hen fynwent Coedgleision; mae rhai o’r cerrig beddau i’w gweld o hyd. Nid oes ond olion o Blas y Dderi yn aros.

Llanfair Clydogau

Ymestyn y pentre ddwy ochr yr afon Teifi gyda ‘Capel Mair’ a siop un ochr, (ganwyd Aneurin Jenkins Jones yma), ac Eglwys Mair ar yr ochr arall. Mae’r ysgol wedi cau a’r adeilad yn gartre moethus erbyn hyn. Ceir yn y bryniau olion gweithfeydd mwyn sydd wedi hen farw.

Cellan

Cymysgedd erbyn heddiw o hen dai a llawer o rai newydd sydd yma. Mae’n bentre sy’n ymestyn am tua milltir gydag Eglwys a dau gapel, ‘Capel yr Erw’ a ‘Caeronnen’, a thrwy ymdrechion gwirfoddolwyr mae neuadd newydd aml-bwrpas wedi’i hadeiladu yno yn ddiweddar.

Ymysg enwogion yr ardal mae Moses Williams fu’n llyfrgellydd yn Rhydychen ac yn ddiweddarach yn offeiriad yn Llanwenog. Anrhydeddwyd ef yn F.R.S. yn 1719. Mewn tŷ o’r enw Cellan Cwrt, fe anwyd yr Athro Griffith John Williams a fu yn bennaeth yr adran Gymraeg yn y Brifysgol yng Nghaerdydd ac a ddisgrifiwyd fel “efallai yr ysgolhaig mwyaf amlochrog a fu erioed’, a’i frawd yr Athro D Mathew Williams; dramodydd, athro ac arolygydd ysgolion.

Cwmann

Enwau eraill a gysylltir yw Treherbert, a Pharcyrhos. Mae’r pentre yn dilyn yr hewl am Landeilo a’r hewl am Llanybydder. Yma y saif adeilad Newydd Ysgol Carreg Hirfaen.

Pencarreg

O ddilyn ymlaen o Gwmann am Lanybydder, fe ddown i bentref bach Pencarreg gydag eglwys wedi’i hadeiladu ar graig yn edrych i lawr dros y pentre. O ddringo’r rhiw o’r pentre ceir golygfa hyfryd o Lyn Pencarreg a’r afon Teifi yn y pellter.

Llanllwni

Yn gysylltiedig â Llanllwni mae pentre Maesycrugiau; dyma oedd yr orsaf i blwyf Llanllwni pan y rhedai’r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth. Saif eglwys hardd gyda thŵr uchel yn sefyll ar lan yr afon. Un capel sydd yma sef Capel Nonni. Cyflogwr mwya’r ardal yw T.L.Thomas, cwmni sy’n rhedeg melin lifo fawr a iard sy’n gwerthu deunydd adeiladu i ardal eang.

Ganwyd T.L.Stephens yn yr ardal, a fu’n brifathro nodedig yn Nhalgarreg, un arall oedd Ben Thomas a ddaeth yn wyddonydd enwog.

Pentrebach

Dyma bentre ar y briffordd o Lanbed i Gastell Newydd Emlyn. Mae yma dai cadarn sydd â golygfeydd gwych o ddyffryn Teifi. Cyflea enw fel Dolau Gwyrddion ar fferm yn y pentre, odidowgrwydd y dyffryn.

Llanwnnen

Ger y groesffordd mae Gwesty’r Grannell gyda’r eglwys gerllaw. Roedd y sgwâr yn hynod brysur ganrifoedd yn ôl a chynhaliwyd ffair lwyddiannus yno pan roddwyd trwydded arbennig i nifer fawr o dai’r pentref i werthu cwrw. Ceir olion Castell Mwnt a Beili wrth yr afon.

Wrth deithio am Cribyn, fe ddown at Capel y Groes. Yno mae capel Undodaidd a adeiladwyd yn 1820. Yn y fynwent, arbennig o gymen, ceir bedd Joseph Jenkins y Swagman. Gellwch dreulio diwrnod yn y fynwent yn darllen y llu o englynion ar y cerrig beddau. Mae 59 o’r rhain yng nghyfrol Euronwy James, Englynion Beddau Ceredigion.

Alltyblaca

Saif ar yr hewl o Lanwnnen i Lanybydder, hewl sydd wedi dyblu ei maint yn y degawd diwethaf. Un capel sydd yma ac fe’u cysylltir â’r diweddar D Jacob Davies.

Llanwenog

Fe noddwyd yr eglwys gan blasdy’r Dolau ac fe fu’r cerflunydd Joseph Reubens o’r Iseldiroedd yn cerfio pennau’r meinciau. Daeth i’r ardal am loches adeg y rhyfel byd cyntaf ac fe gynlluniwyd y gwaith i’w gerfio gan Mrs Davies Evans o’r Dolau.

Mae’r plwyf wedi codi nifer o enwogion a cheir adroddiad manwl amdanynt yn y gyfrol Hanes Llanwenog: Y Plwyf a’i Bobl gydag atodiad, 1939 – 2000 (Cymdeithas Llyfrau Ceredigion 2001). Cyhoeddwyd y llyfr hwn i ddathlu’r mileniwm sef gwaith gwreiddiol D.R. a Z.S.Cledlyn Davies gyda diweddariad gan Bifan Morgan.

O osgoi mynd i mewn i Lanybydder a dilyn yr hewl am bentref Llanfihangel ar Arth, down ar draws clwstwr o dai ger aber yr afon Cledlyn. Rhuddlan Teifi yw’r enw llawn, ac fe gyfeirir at y pentre yn y Mabinogi – yn y bedwaredd gainc – “Yn y lle a elwir Rhuddlan Teifi yn awr yr oedd llys i Bryderi. Ac yn rhith beirdd y daethant i mewn”. Y beirdd fan yma oedd gosgordd Math fab Mathonwy.

Drefach

Pentref bach wrth droed rhiw Llanwenog. Ger y cylchdro ceir cofgolofn i fechgyn y plwyf a syrthiodd yn y ddau ryfel byd. O fewn cwmpas y golofn claddwyd capsiwl y mileniwm gyda charreg ar ffurf ysgub yn nodi’r fan. Dyma leoliad Ysgol Dyffryn Cledlyn sef yr ysgol ardal ers cau Ysgolion Cwrtnewydd, Llanwenog a Llanwnnen.

Cwrtnewydd

Saif ar lan yr afon Cledlyn, yn glwstwr o dai gyda thafarn a dau gapel, ‘Seion’ a ‘Capel y Bryn’. Ceir hefyd y Felin, sef cwmni sy’n gwasanaethu ffermydd y fro. Bu cware cerrig ‘Alltgoch’ yn gyflogwr mawr ar un adeg; deil o hyd i weithio, er bod y garreg yn prinhau. Saif un hen ysgol yng nghanol y pentref ac un arall mwy diweddar ar ben y rhiw sy’n arwain i Gwmsychbant.

Gorsgoch

Saif y pentref yma ar ochr y gors gydag un capel – ‘Bryn-Hafod’, tafarn, efail y gof, gweithdy, a neuadd y pentref. Mae’r gors yn warchodfa natur ac mae gwylanod penddu yn ymgartrefu yno.

Cwmsychbant

Dyma’r pentref uchaf o fewn y plwyf. Mae un hewl yn dod o Rhuddlan a Brynteg a Penffordd, a’r llall o Gwrtnewydd yn ymuno â’r hewl o Lanbed am Castell Newydd Emlyn. Clwstwr bach o dai gyda ‘Capel y Cwm’ yn y canol sydd yma. Ar ochr ty Brynawel ceir plac yn nodi man geni Evan James Williams, Ph.D; D.Sc; F.R.S. a cheir ei fedd yn y fynwent gerllaw.