Roedd y Grannell, Llanwnnen dan ei sang nos Iau 25 Hydref 2007 ar gyfer noson lansio cyfrol Cymeriadau Bro gan Twynog Davies.
Cyfrol yw hon yn cynnwys erthyglau ar 44 o gymeriadau a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mhapur bro Clonc. Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y papur, cyhoeddwyd y gyfrol.
Cafwyd cyhoeddusrwydd da i’r noson o flaen llaw gydag eitemau ar Radio Ceredigion, BBC Radio Cymru ac ar Wedi 7.
Daeth rhyw 140 o bobl ynghyd i’r lansiad a braf oedd gweld nifer fawr o’r cymeriadau eu hunain yn bresennol. Cyflwynodd Dylan Lewis y siaradwyr gwadd sef Twynog Davies, John Williams, Andrew Jones, Dylan Iorwerth a Megan Jones. Darllenodd Dylan Iorwerth englyn o’i waith hefyd.
Aredig portreadau – yn nhir bras
Daear bro; rhoi’r geiriau
Yn oludog fel hadau
Yn y pridd – er mwyn parhau.
Cafwyd dwy gân gan Kees Huysmans gydag Elonwy Pugh yn cyfeilio. Gwahoddodd y gynulleidfa i ymuno ag ef yn yr ail gân. Y cyfan yn ddifyr ac yn adloniant pur. Gweinwyd cawl blasus a phice bach gan staff y Grannell wedyn, a phawb wedi mwynhau gwledd.
Yn ystod hyn oll, gwelwyd lluniau o’r cymeriadau sy’n destun i’r gyfrol ar sgrîn fawr yn yr ystafell.
Cyfrannodd nifer o bobl wobrau i’r raffl, a gwerthfawrogir hynny’n fawr iawn. Yr enillwyr oedd: Gwynfor Lewis, Alan Morgan, John Meirion Jones, Liz Mills, Megan Jones, Magw Hughes, Rhian Twynog, Anita Williams a Twynog Davies.
Cyn i bawb gasglu a phrynu eu copïau diolchodd Dylan i bawb a gymerodd ran, ac i bawb a gefnogodd ac a gyfrannodd tuag at lwyddiant y noson a’r gyfrol. Cyflwynwyd tlws i Twynog fel gwerthfawrogiad o’i waith gan Iestyn a Morgan, a chyflwynwyd blodau i Hazel gan Sara a Mari.
Bu Twynog yn ddigon caredig i arwyddo llyfrau i’r rhai â diddordeb, tra bu gweddill y gynulleidfa yn cymdeithasu wedi noson hwylus a braf.
Gwerthfawrogwyd cydweithrediad swyddogion Prosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro gyda chasglu deunydd a theipio. Diolchir hefyd am gefnogaeth ariannol ‘Milltir Sgwâr’ a ‘Cynnal Ceredigion’, ac i wasg Y Lolfa am eu gwaith glan. Gwerthwyd 272 o danysgrifiadau o flaen llaw, a diolch i Nia a Mary am y gwaith gweinyddu trefnus.
Dyma restr o’r cymeriadau yn y cyfrol:
1 – Dr Islwyn Ffowc Elis, Rhodfa Glynhebog, Llambed
2 – Mrs Ray Davies, Crug, Llanybydder
3 – Mr Andrew Jones, Pentresiôn, Pentrebach
4 – Mr Glyn Ifans, Gwynon, Llambed
5 – Mrs Janet Cooper-Davies, Ynysfaig, Stryd Newydd, Llambed
6 – Mr Haydn Lewis, Talgrwn, Llanwnnen
7 – Mrs Sulwen Morgan, Rhodfa Glynhebog, Llambed
8 – Y Canon T. R. Evans, 60 Penbryn, Llambed
9 – Mrs Anita Williams, Gwêl y coed, Cwmann
10 – Mr Timothy Evans, Glynrhosyn, Penbryn, Llambed
11 – Mr Glan Evans, Nantyffin, Llambed
12 – Mr Sam Morgan, Penparc, Silian
13 – Y Parch. T. Glenfil Jones, Hafan, Llanybydder
14 – Miss Elin Jones, Tynllyn, Llanwnnen
15 – Mrs Nesta Harries, 4 Y Deri, Heol y Gogledd, Llambed
16 – Mr Delfryn James, Y Fron, Stryd y Bont, Llambed
17 – Mrs Nansi Jones, Brynheulwen, Heol y Bryn, Llambed
18 – Y Parch Wynn Vittle, Llanllwni
19 – Mr Danny Davies, Frondeg, Llanybydder
20 – Mrs Bethan Phillips, Castellan, Llambed
21 – Mr Dafydd Mills, Ffynnonfair, Pentrebach a Mr Rhys Williams, Bayliau, Cellan
22 – Mr Daniel Davies, Y Gilfach, Heol y Gogledd, Llambed
23 – Mr Andrew Jones, Glanhathren, Cwmann
24 – Mrs Eleri Davies, Pentre, Llanfair Clydogau a Mrs Margaret Jones, Glanhelen, Heol y Gogledd, Llambed
25 – Mr Dennis Jones, Bontnewydd, Llanybydder
26 – Mr Dylan Iorwerth, Pen y Nant, Llanwnnen
27 – Mr Sion Jenkins, Cathal, Cwrtnewydd
28 – Mr Caradog Jones, Coed y Glyn, Ffordd Glynhebog, Llambed
29 – Mr John Jones, 12 Peterwell Terrace, Llambed
30 – Miss Mattie Evans, Llwydfaes Cribyn
31 – Mr Dylan Wyn, Y Fron, Llanybydder
32 – Mr Dai Davies, Vader, Heol yr Orsaf, Llambed
33 – Mrs Irene Williams, Cae’r Nant, Cwmann
34 – Cwmni W.D. Lewis a’i Fab, Stryd y Bont, Llambed
35 – Mr David Davies, Gwarffynnon, Silian
36 – Mr Aneurin Rees Davies, Tynffynnon, Maestir
37 – Mrs Iona Trefor–Jones, Ty-nant, Cwmann
38 – Mr Dewi Davies, Glanafon, Llanllwni
39 – Mr J. Dilwyn Williams, Felinfach
40 – Mr Kees Huysmans, Yr Hen Siop, Tregroes
41 – Mr David Morgan, Haulfryn, Cwmann
42 – Mrs Aerwen Griffiths, Pengarn, Llanfair Clydogau
43 – Mr Harold Williams, Tŷ Howell, Cwmann
44 – Mr Twynog Davies, Frondolau, Pentrebach gan John Beufort Williams
Gobeithir y bydd y llyfrau ar werth nawr yn yr un siopau sy’n gwerthu Clonc o fis i fis yn ogystal ag ambell siop arall yn yr ardal. Bargen am £4.95. Os na ellir dod o hyd i gopi ffoniwch Nia neu Mary ar 01570 480015. Codir £1 ychwanegol am bostio. Danfonwch eich sieciau’n daladwy i CLONC, Maesglas, Drefach, Llanybydder, SA40 9YB.