Ychydig o Gefndir y Côr

Penillion Llinos Jones a Sian Roberts Jone

Côr Merched Corisma
gan Côr Merched Corisma

Cynhaliwyd cinio Nadolig cyntaf Corisma yng Ngwesty’r Plu, Aberaeron, a chyflwynwyd y penillion hyn i Carys ar y noson.

 

Dros flwyddyn yn ôl bellach

Cafodd Carys reial brenwef,

I ddechre côr yn ardal Cwmann

“Dewch i ganu,” oedd ei llef.

 

Fe anwyd Côr Corisma

Yn Hydref dwy fil a chwech,

Cymysgedd o fechgyn a merched

Yn uno mewn un sgrech.

 

Roedd rhaid cael arweinyddes

I gadw trefn ar y criw

A phwy well na Carys Lewis

Reial sbarcen wrth y llyw.

 

Fe ddechreuodd yr ymarferion

Gyda, “dwylo dros y môr,”

A phawb yn canu o’u gore

-roedden ni’n dechre swnio fel côr!

 

Ond rhaid oedd cael gwared o’r bechgyn

Nid oeddent yn ddigon i ni,

Ni ellid ein galw’n gôr cymysg

A hwythe ond yn dri!

 

Felly ymlaen â ni fel Côr Merched

Oedd yn argoeli i fod yn dipyn o sbri

Fe’n rhannwyd yn sopranos ac altos

A thenoriaid – o’dd dim angen bois arnom ni!

 

Corisma oedd yr enw

A roddodd gŵr Carys i ni

Ar ôl cael ysbrydoliaeth un noswaith

Yn y gwely gyda hi.

 

A diolch i Sera

Am ei logo deniadol hi

Mae popeth yn edrych yn bictiwr

A’r sgarff binc yn dlws arnom ni.

 

Penodi swyddogion wedyn

Cyn ele pethe’n Amen!

Siân, Llinos, Tina ac Ann

A Rhian i gadw trefn.

 

Sally, Elonwy ac Alwena

Yn cyfeilio a chanu am yn ail

A lleisiau peraidd Helen a’r criw

Yn swyno pawb yn ddi-ffael.

 

Ymarfer bu rhaid wedyn

A Carys wrth y llyw

Pawb yn gwneud eu gorau glas

Ar ôl clywed, “Canwch er mwyn Duw.”

 

Cychwynnodd yr ymarferion

A Carys yn ddigon sidêt

Ond newidiodd pethau’n ddigon cloi

Y “Facial expressions” oedd yn grêt.

 

Roedd hi’n anodd iawn gweld Carys

A hithe’n llai na “five foot four”

Felly peintio bocs mawr bren fu raid

Yn binc llachar ac arno logo’r côr.

 

Fe ddaeth ein gwahoddiad cynta

A phawb yn nerfus post

Yn Aberaeron oedd y gyngerdd

Roedd bolie pawb yn dost.

 

Eisteddfod, rhaglenni radio

Cyngherddau ar draws y Sir,

Bu ffôn Tŷ Cerrig yn canu’n ddi-stop

Am gyfnod eithaf hir!

 

Bu Carys druan yn stryglan

Ei throwsus oedd yn rhy fawr

A rhaid oedd prynu belt bach pinc

I’w stopio rhag cwympo i’r llawr.

 

Diolch i chi aelodau

Am eich ffyddlondeb chi

Eich egni a’ch brwdfrydedd

Sydd yn ein cynnal ni.

 

Cawsom lot o hwyl a llwyddiant

Rwy’n siŵr fod pawb yn gytûn

Bod Carys ein harweinyddes

Yn haeddu dosbarth un!

 

Pymtheg mis aeth heibio bellach

A’r côr yn dal i ddwyn ffrwyth

I Carys a Chorisma

Pob hwyl yn nwy fil ac wyth!

 

10.01.08