Clonc yn 30 oed

Dudley Newbury yn coginio ar gyfer gwirfoddolwyr Clonc wrth baratoi rhaglen goginio i S4C.

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc

Daeth cogydd S4C Dudley i Festri Shiloh Llanbedr Pont Steffan ar noson plygu rhifyn Tachwedd Clonc ar nos Fercher 2ail Tachwedd 2011.  Bu cwmni Rondo yn ffilmio rhaglen mewn cyfres newydd.

Bu Dudley yn dangos i Janet Evans a Twynog Davies sut i goginio pei a sglodion.  Roedd yn ddoniol iawn gwylio’r ddau yn tynnu coes ei gilydd tra’n paratoi gwledd i wirfoddolwyr Clonc.

Wedi’r holl waith paratoi a choginio ac wedi paratoi a phlygu rhyw 1000 o gopiau o Clonc, gweinwyd pryd blasus iawn fel rhan o ddathliadau penblwydd Clonc yn 30 oed. Darlledwyd y rhaglen ar S4C ar nos Wener 13eg Ionawr 2012.