Mae Casgliad y Werin Cymru yn chwilio am eich straeon am Batagonia
Mae Casgliad y Werin Cymru, sydd yn wefan ddwyieithog ymroddedig i dreftadaeth a diwylliant Cymru, yn gofyn i bobl i rannu eu ffotograffau, llythyrau a dogfennau eraill am Y Wladfa.
Mae’r wefan yn awyddus i gasglu a chofnodi hanes a datblygiad yr anheddiad Cymreig a’r effaith ar deuluoedd a chyfeillion y gwladychwyr yng Nghymru.
Dywedodd Hazel Thomas, rheolwr uned Casgliad y Werin Cymru dros y Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Rydym yn awyddus i glywed gan bawb sydd â lluniau, llythyrau, gwrthrychau, hanesion llafar, fideos neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r Gymraeg ym Mhatagonia. Gall copïau digidol o’r rhan fwyaf o eitemau gael eu creu, ac yna eu hychwanegu at adran Patagonia 150 ar wefan Casgliad y Werin Cymru – gan greu cofnod amhrisiadwy, hanesyddol.
“Eleni rydym hefyd yn bwriadu cynnig hyfforddiant digidol i’r cymunedau ym Mhatagonia, i’w helpu i gadw a chofnodi eu treftadaeth ddiwylliannol.”
Mae Casgliad y Werin Cymru yn ymroddedig i hanes Cymru a’i phobl ar draws y byd.
I weld mwy ewch i www.casgliadywerin.cymru
Dyma enghraifft dda sydd wedi cyrraedd y swyddfa yn barod. Mae’r llun yma wrth Julie Dowland yn dangos aelodau o deulu Julie, sef ei hen nain a thaid, George ac Elizabeth Harvard, ynghyd â’u 4 o blant, Eleanor, Frances, Arthur a William (y baban, ei thad-cu) ar yr ochr dde. Ar ôl teithio i fyny o Sir Frycheiniog, wedi gadael Lerpwl ar 9 Medi 1897 ar RMS Orissa i Punta Arenas, Chile. Cafodd y 4 o blant eu geni tra allan yno. Dywedodd Julie nad oedd wedi gallu dod o hyd i lawer o wybodaeth, ac eithrio cofnodion bedydd i’r 3 plentyn hynaf a bod George yn fugail. Gadawsant Valparaiso, Chile Mawrth 1903 ar fwrdd RMS Ligura, yn ôl i Lerpwl ac yna adref i Aberhonddu.
Stori ddiddorol tu hwnt yn y flwyddyn pan fydd y Cymry yn dathlu 150 ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia.
Tybed a oes gyda chi stori tebyg? Cysylltwch â ni i rannu.