Mae Gwener y Groglith, sef y dydd Gwener cyn Sul y Pasg yn ddiwrnod dwys ym mywyd yr eglwys pan fydd Cristnogion yn cofio am groeshoeliad Iesu ar fryn Calfaria y tu allan i Jerwsalem. Ac er bod amrywiaeth fawr o fewn Cristnogaeth, gallwn gytuno am bwysigrwydd y cofio hwn.
Ar fore Gwener y Groglith felly, daeth cynrychiolwyr ynghyd, o eglwysi’r dre, i gofio mewn gweithred symbolaidd, drwy gerdded i ymweld â holl adeiladau eglwysig y dre, gan ddilyn croes. Mae’r arfer blynyddol wedi ei hen sefydlu, a’r llwybr yn gyfarwydd – o Frondeifi, i Noddfa, ac yna i Emaus; o fan’no i Soar a’r Tri Hierarch (Festri Soar), i San Tomos a Shiloh, Mynydd Carmel, San Pedr, Eglwys Efengylaidd Llambed (Neuadd Victoria), a Chapel y Brifysgol. Ym mhob man fe fuon ni’n gweddïo dros y bobl a addolai yno a’r gymuned maen nhw’n ei gwasanaethu. Daeth y daith i ben ar Sgwâr Harford, lle y cynhaliwyd oedfa fer, cyn gwasgaru eto i gofio am yr ychydig amser pan na fyddai ffrindiau Iesu yn ei weld, ac i baratoi i ddathlu o’r newydd, ar Sul y Pasg, atgyfodiad Iesu. Dyma uchel ŵyl yr eglwys Gristnogol: yn ei hanfod mae neges yr eglwys yn neges am fywyd ac am fyw – felly os oes diddordeb gennych, mentrwch holi!