Carnifal Llanybydder 2015

gan Nerys Morris
Brenhines y carnifal a'i gosgordd
Brenhines y carnifal a’i gosgordd

Cynhaliwyd Carnifal Llanybydder ar y 27ain Mehefin ar gae rygbi Llanybydder.

Sharon Tudor a’r Parch Eirian Lewis oedd llywyddion a beirniaid y carnifal.  Brenhines y carnifal oedd Elain Williams a’i morwynion oedd Jessica Thomas a Cerys Carmody ynghyd â’r frenhines fach Gweno Jones a’r gwas bach sef Rhys Jones.  Roedd pawb yn edrych yn hyfryd.

Thema B
Carnifal Llanybydder 2015

Thema’r carnifal eleni oedd unrhyw beth yn dechrau gyda’r llythyren B.  Y gorau yn y carnifal oedd ‘Born to be wild’ sef Elis Parry ac enillwyr pob categori oedd:
Tan 5 oed – Beti Bwt sef Liwsi Benson,
11-15 oed – Bwgan brain sef Chloe Jones,
16+ oed – Batman – Carwyn Carmody,

Pâr gorau sef Bumble Bee a Beekeeper – Nia a Gary Jones,
6-10 oed – Big Ben – Logan Jones,
Addurno Beic – Born to be wild – Elis Parry.
Fflôt gorau – Tîm Bobsled Jamaica sef Chloe George Ffion Hopkins Sophie Hughes a Josh Rees.

Enillwyr y ras deircoes a chwpan er cof am Sue Davies.
Enillwyr y ras deircoes a chwpan er cof am Sue Davies.
Sam & Daniel Garside ei meibion

Diolch i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y diwrnod.

Bydd mwy o luniau gan Dewi Davies yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc.

Cystadleuaeth y Parau
Cystadleuaeth y Parau