Codi hwyl yn Nhwrnament Pêl-rwyd Callum

Noson emosiynol er mwyn dangos cariad tuag at deulu Callum

gan Alex Fox
F4E280A8-3B50-4B5D-B512

Team Dimensional Theory

5CC82D83-1A53-4AB9-93AD

Tîm Ballistics

EC0C71A5-8B86-4F64-838E

Tîm Crawley the Cat

88DD5F1A-AF33-47E9-8C3D

Tîm Charles Leclerc

DD39A742-158A-440F-9CFF

Tîm Manchester United

CD19D254-4621-4881-9B9B

Tîm Marcus Radford

AE186C55-ED69-4DBB-A933

Tîm Ren

Diolch i bawb wnaeth Twrnament Callum yn arbennig nos Iau. Roedd hi’n noson emosiynol, ond mor dda gweld pawb yn dod at ei gilydd i ddangos i deulu Callum Wright y cariad a’r gefnogaeth rydyn ni i gyd yn ei deimlo tuag atyn nhw. Mae’n anodd ysgrifennu adroddiad y twrnamaint oherwydd nid oedd y noson yn ymwneud ag ennill neu golli, neu hyd yn oed pêl-rwyd, ond rydym yn gobeithio bod pawb wedi mynd â rhywbeth cadarnhaol nôl gyda nhw.

Cyn mynd i’r cwrt ar gyfer y gêm gyntaf, cafwyd araith fach gan Lesley, mam-gu Callum yn diolch i bawb am eu cefnogaeth, ond hefyd yn cyfleodd y neges bwysig i siarad bob amser a gofyn am gymorth. Roedd yn benderfynol bod pawb i fwynhau’r noson, a chael hwyl ar y cwrt.  Roedd hynny ddewr, ac yn feddylgar, gan fod hyn wedi helpu i osod y naws am weddill y noson.

Y cynlluniau gwreiddiol oedd i bob tîm chwarae ei gilydd, ond gyda 7 tîm yn cystadlu, a dim ond 2 awr i chwarae, nid oedd hyn yn bosibl, felly chwaraeodd pob tîm 4 arall mewn gemau 6 munud. Pan ddechreuon ni gynllunio’r noson gyntaf, doedd dim tîm buddugol yn mynd i fod, ond bu Maisie a Maeve yn sgwrsio am ba mor gystadleuol oedd Callum, felly roedd hi’n addas mai Pencampwyr y Twrnamaint fyddai’r flaenoriaeth. Dyrannwyd pwyntiau gyda 3 am fuddugoliaeth ac 1 am gêm gyfartal, a dewiswyd Chwaraewr Enwebedig ar ddiwedd pob gêm gan y tîm oedd yn gwrthwynebu.

Chwaraeodd teulu Callum gyda’i gilydd fel Team Dimensional Theory, ac er mai dim ond dwy chwaraewraig bêl-rwyd rheolaidd oedd yn eu plith (Maeve a Maise) roedd ganddynt rym pendant. Bydd rhai o’n chwaraewyr hirsefydlog yn cofio Lauren (GS nos Iau) fel un o aelodau sylfaen Llewod, a chwaraewr yng ngharfan Cynghrair 2018/19.  Roedd pob aelod o’r teulu i’w gweld yn fabolgampwyr ac roedden nhw i gyd yn falch iawn o Callum.

Roedd y 6 tîm arall yn cynnwys 39 o chwaraewyr Llewod, 1 aelod o staff YBP, 1 chwaraewr o’n sesiynau cynradd diweddar, a Tomos Lloyd-jones, un o ffrindiau Callum, oedd yn aelod o “Dîm y Twrnamaint” yn ein Cwpan y Byd Llewod llynedd.

Llongyfarchiadau i’r bechgyn ar y cwrt neithiwr.  Prin iawn yw’r cyfleoedd i fechgyn gymryd rhan mewn pêl-rwyd yn lleol, ond roedd sgil a dealltwriaeth y gêm a ddangoswyd ganddynt ar y cwrt yn rhyfeddol!

Rydym wrth ein bodd yn chwarae rhwng gwahanol genedlaethau yn y Llewod, ond neithiwr roedd yn arbennig o hyfryd – llawer o wenu a llawer o gyfeillgarwch, a phob un yn chwarae i gerddoriaeth gefndir rhestr chwarae Callum. Da iawn i bob un chwaraewr!

Y lleoliadau terfynol oedd:

1af gyda 10 pwynt: Team Dimensional Theory ~ Tîm Callum
2il gyda 9 pwynt (13 gôl): Tîm Ren
3ydd safle gyda 9 pwynt (8 gôl): Tîm Leclerc
4ydd safle gyda 6 phwynt: Tîm Manchester United

Dim gwobrau, ond cyflwynwyd pêl y gêm a llun o Callum wedi ei fframio i’r tîm buddugol.

Aeth Gwobrau Chwaraewr Enwebedig i:
Tomos x 3
Martha x2
Isis x2
Ann x 2
Lili-Gras x 2
Alexandra x 2
Sophie x 2
Maeve
Keiren
Lauren
Maisie
Catrin
Gabi
Tracey-Ann
Vicky
Caitlin
Lynn
Ceris G
Beca

Chwaraewr y Twrnamaint: Tomos Lloyd-Jones.

Diolch enfawr unwaith eto i bawb am eu holl gymorth, ond diolch yn arbennig i Maeve, Maisie a Jody am helpu i gynllunio’r noson, i Kirsty am ei mewnbwn a’i chefnogaeth, i’r Brifysgol am ddefnyddio’r cwrt am ddim, i Lynwen a Lyra on y ddesg gofrestru, i Dan, Ellie ac Isis ar y Tabl Canlyniadau, i Lizzie am y ffotograffiaeth, i Lynn, Sara, Adee ac Alex am ddyfarnu, ac i’r holl sgorwyr a cheidwaid amser.  Diolch i’r holl chwaraewyr am roi trefn ar eich timau a bod ar y cwrt yn brydlon ar gyfer pob gêm.

Mae’r swm a godwyd ar y noson ar hyn o bryd yn £471.50… sy’n anhygoel! Gwnaeth y canlynol hefyd roddion cyn y twrnamaint:
Chwaraewyr Ysgol Gynradd
Grŵp Pêl-rwyd Bont Blades
Mwnci Ffwnci (Sioned Green) – (cyflenwr cit Llewod)
Brynmor a Sue (Clwb Rygbi Llambed)
Anwen Coles Ivy Bush, Llanbed
Alex a Lynwen, a enillodd Dwbl Cynghrair y Merched yng Nghynghrair Dartiau Llanbed ddydd Mercher, a rhoddodd eu gwobr ariannol.
Daeth Anwen ac Yvonne Coles yn ail yn yr uchod gan gyfrannu eu henillion hefyd.

Os oes unrhyw un arall yn dymuno rhoi rhodd gallant wneud hynny drwy: https://www.gofundme.com/f/community-memorial-for-callum

Ar ddiwedd y noson fe wnaethom ddosbarthu cardiau cefnogi i’n holl chwaraewyr iau i’w cadw yn eu ffonau / waledi. Merched – mae gan y cardiau hyn rifau llinell gymorth defnyddiol a grwpiau cymorth arnynt, nid yn unig ar gyfer iechyd meddwl, ond ar gyfer pob math o faterion y gallech eu profi – defnyddiwch nhw – does dim cywilydd mewn ceisio cymorth, waeth pa mor fawr neu fach ydych chi meddwl yw’r problemau. Mae llun Callum hefyd yn ymddangos ar y cardiau hyn mewn nodyn atgoffa i siarad bob amser, #talkforcallum. Os na chafodd unrhyw chwaraewyr gerdyn neithiwr, mae gennym ni rai sbar, a bydd mwy yn cael eu hargraffu.  Byddwn yn parhau i roi’r rhain i chwaraewyr newydd wrth iddynt ymuno â’r clwb.

Gallwch wastad siarad ag unrhyw un yn y Llewod os oes unrhyw un yn cael trafferthion – dewch atom ni. Mae gennym hefyd gynnig caredig iawn o help a chefnogaeth gan Kate (mam yr Hydref), sy’n seicolegydd, yn arbenigo mewn lles meddyliol ac emosiynol.

Diolch o galon.

Dweud eich dweud