Bu’r heol rhwng Cwmann a Llanybydder ar gau prynhawn ma

Car wedi moelyd ger Eglwys Sant Iago

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
1e338433-3c94-42ae-9597

Llun gan Rhiannon Lewis.

B165CEE2-D6BE-4212-8383

Llun gan Carys Hamilton.

Bu ffordd A485 rhwng Cwmann a Llanybydder ar gau am gyfnod y prynhawn ma oherwydd damwain car.

Roedd cerbyd wedi moelyd ar ei ochr ger Eglwys Sant Iago, Cwmann gyda’r gwasanaethau brys yn bresennol.  Rhwystrwyd teithwyr rhag defnyddio’r ffordd a rhag cael mynediad i bentref Parc-y-rhos am gyfnos.

Amharwyd ar wasanaeth bws T1 o Gaerfyrddin i Aberystwyth a’r un gwasanaeth o Aberystwyth i Gaerfyrddin.

Digwyddodd y ddamwain mewn ardal 30mya a chredir nad oedd unrhyw gerbyd arall yn rhan o’r ddamwain.  Mae’r ffordd wedi ail agor erbyn hyn.

Dweud eich dweud