Cerddedigion 2015

gan Arwel Jones

IMG_0345

Ar nos Wener 18eg Medi 2015 cynhaliwyd taith gerdded ‘Cerddedigion’ dan ofal Canolfan Hamdden Llambed. Taith gerdded o 23 milltir oedd y sialens a hynny yn cychwyn o Ganolfan Hamdden Llambed, trwy Gwmann, Cellan, Llanfair Clydogau a Llanddewi Brefi, cyn cyrraedd Canolfan Hamdden Tregaron a throi rownd a dilyn yr un ffordd yn ôl i Lambed. I wneud y sialens yn anoddach fyth roedd rhan fwyaf o’r daith i’w gwblhau yn y tywyllwch gyda phawb yn cychwyn cerdded am 7yh. Cychwynnodd dros 50 o gerddwyr gyda’r mwyafrif yn dod i ben â chwblhau’r sialens er gwaetha’r diffyg cwsg, coesau trwm a thraed tost! Codwyd dros £500 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.

IMG_0349

Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan, cefnogi a chyfrannu at y daith gerdded. Roedd hi’n braf gweld cynifer o bobl yn cymryd rhan ac yn mwynhau’r sialens. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad o’r fath gyda’r ganolfan a ni allwn fod yn hapusach gyda’r ymateb, trefniadau a’r gefnogaeth. Gobeithio y medrwn adeiladu ar hyn a chynnal mwy o ddigwyddiadau o’r fath y flwyddyn nesaf, felly cadwch eich llygaid allan am ein digwyddiadau nesaf!