CD ‘Cico Sodle’

Lansio cryno ddisg cyntaf Côr Merched Corisma.

Côr Merched Corisma
gan Côr Merched Corisma

Ar nos Wener olaf Hydref 2015, lansiwyd cryno ddisg cyntaf Côr Merched Corisma, ‘Cicio sodle’.  Bydd y côr yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed y flwyddyn nesaf, a pha gwell ffordd i ddathlu nag i greu cryno ddisg  o hoff ganeuon y Côr. Cafwyd noson ddymunol iawn i’w lansio yng Nghanolfan Gymunedol Cwm-ann.  Noson anffurfiol gan ymlacio a mwynhau’r caws a’r gwin mewn cwmni da ac wrth gwrs, yn sain canu peraidd y Côr.

Treuliwyd oriau yn ymarfer ac yn recordio’r caneuon yn Neuadd Llanfair Clydogau ac yn Stiwdio Talent Cymru, Llangeithio gyda Eifion ‘Bodyshaker’ Williams. Felly, CD wedi cael ei chreu a’i chynyrchu yn lleol, yn ardal Llanbedr Pont Steffan.  Arweinydd amryddawn y Côr  yw Carys Lewis sydd yn canu fel unawdydd ar y ddisg yn y gân Clychau Bethlehem. Y cyfeilyddion yw Alwena Roberts a Lois Williams gyda Helen Davies yn unawdydd yn y caneuon Anfonaf Angel a Pererin Wyf.  Mae nifer o ganeuon poblogaidd megis Benedictus, Calon Lân ac un Seren Wen, rhywbeth at ddant pawb!Os am anrheg arbennig fydd yn siwr o blesio y Nadolig hwn, hon yw’r CD i chi!  Does dim rhaid cicio sodle rhagor, mae’r CD yn eich siop lyfrau leol!