Cneifio Llambed 2015

gan Ffion Jenkins

Cafwyd diwrnod llwyddiannus yng Nghneifio Llambed 2015 a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 18fed o Orffennaf ar Fferm Capeli, Cribyn. Dechreuodd y cystadlu tua 8:30yb, gyda’r dosbarth iau yn cychwyn y diwrnod, a 34 cneifiwr yn cystadlu. Yna daeth yn amser rhagbrawf i’r dosbarth canolradd, gyda 60 yn cystadlu. Ar ôl hyn, y rowndiau cynderfynol i’r ddau ddosbarth. Cafwyd rhagbrofion i’r Cneifio Gwellau gydag 8 cystadleuwr, rhagbrofion i’r ddau ddosbarth olaf sef y dosbarth uwch lle’r oedd 47 yn cystadlu, a’r dosbarth agored gyda 37 yn cystadlu, yna’r rowndiau cyn derfynol i’r ddau ddosbarth. Nesaf cafwyd prawf rhyngwladol rhwng Cymru a Ffrainc, ac yna’r ffeinal i’r dosbarth iau a’r canolradd, cyn cael prawf rhyngwladol arall rhwng Cymru a Seland Newydd – uchafbwynt y diwrnod i rai. Ac yna gorffen y diwrnod gyda’r ddau ffeinal mawr i’r dosbarth uwch ac agored.

Roedd dros £2,700 o wobrau ariannol i’w ennill, dyma oedd y canlyniadau:

cneifio1Dosbarth Iau:

  1. Dylan Evans
  2. Rhys Douglas
  3. Jonny Rees
  4. Huw Williams
  5. Josh Page
  6. Joe Price

cneifio2Dosbarth Canolradd:

  1. Dion Edwards
  2. Dylan Jones
  3. Llewelyn Williams
  4. Ilan Rhys Jones
  5. Dewi Williams
  6. Steffan Jenkins

cneifio3Dosbarth Uwch:

  1. Julien Dincq
  2. Lloyd Rees
  3. Mark Dyke
  4. Jacob Moore
  5. Llywelyn Williams
  6. Neil Lawrence

cneifio4Dosbarth Agored:

  1. Gareth Daniel
  2. Richard Jones
  3. Gwion Lloyd Evans
  4. Jack Fagan
  5. David Fagan
  6. Rhys Jones

cneifio5Prawf Cymru a Ffrainc:

  1. Cymru – Ian Jones a Aaron G Hughes
  2. Ffrainc – Thimo Resneau a Christophe Riffaud

cneifio6Prawf Cymru a Seland Newydd:

  1. Seland Newydd – Dion King a David Fagan
  2. Cymru – Gwion Evans a Rhys Jones

cneifio7Cneifo Gwellau:

  1. Gareth Owen
  2. Elfed Jackson
  3. George Mudge
  4. Rheinallt Hughes
  5. Mark Armstrong
  6. Elgar Hughes