Yn Gerwyn Morgan collwyd un o gymeriadau cefn gwlad. Yn anffodus daeth dyddiau daearol Gerwyn i ben yn sydyn noswyl Nadolig 2014. Yn werinwr diwylliedig, roedd e’n ŵr hynaws, caredig a hael, ac yn barod ei gymwynas i bawb oedd yn ei adnabod.
Fe’i ganwyd yn 1937 a threuliodd ei fachgendod ar aelwyd Gristnogol Fferm Trebannau Porthyrhyd, yn unig fab Eleanor a Tom Morgan. Pan fu ei fam farw yn 1967, symudodd ef a’i dad i fferm Trebannau Cellan. Yno y buont ffermio, gan fynychu Capel yr Erw, Cellan. Yn 1971 daeth Efengylwr i Geredigion a chafodd wahoddiad i fynychu y cyfarfod yn Soar. Y noson honno achubwyd 39, a Gerwyn yn eu plith. Trwy gydol ei fywyd bu’n ffermwr cymeradwy. Yn 1972 bu farw ei dad. Wrth ffermio ar ben ei hun derbyniodd garedigrwydd oddi wrth gymdogion. Cyfrifai ei lafur yn fodd i ariannu ei weinidogaeth, a bu’n helpu ar ffermydd yn ddi-dâl, hyd yn oed wedi ymddeol i Heol Hathren ddegawd yn ôl.
Yn gyn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Cilycwm, roedd yn hoff o dwmpath dawns, cyfrannu i eisteddfodau a sioeau drwy bennill neu englyn, ac yn ogystal yn mwynhau cerdded gyda Chymdeithas Edward Llwyd ar ddydd Sadyrnau. Pleser pennaf ei fywyd fu dweud am, a chydgerdded, gyda’r Arglwydd. Bu’n gymwynaswr da i gapeli siroedd gorllewin Cymru, ac roedd yn hoff o siarad a chymdeithasu gyda phobol. Yn anterth ei ddyddiau fel pregethwr, gwasanaethodd mewn 70 o gapeli a gwneud hynny’n ddi-dâl.
Yn dilyn ei farwolaeth ar noswyl Nadolig daeth tyrfa enfawr ynghyd i’r angladd ar 6ed o Ionawr 2015 yng nghapel Tabernacl, Llanymddyfri. Y Parchedig David Patterson oedd yng ngofal y gwasanaeth, a chymerwyd at y rhannau arweiniol gan John Jones, Gareth Jones a Clyde Briggs. Cyflwynwyd teyrnged haeddiannol iddo gan Aled Lewis. Yr organyddes oedd Lon Owen. Dosbarthwyd y taflenni gan Paul Codner, Aled Lewys a Gareth Harries. Yr archgludwyr oedd Richard Burgess, Eirian Davies, Gordon Harvey, John Jones, Murray Kasbee, Stuart Northam, a gosodwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent Y Crofft Llanymddyfri. Casglwyd £1,600 er cof am Gerwyn a rhanwyd yr arian rhwng Eglwys Tabernacl Llanymddyfri a Tŷ Olwen Treforus; diolch i bawb am eu haelioni. Gwerthfawrogwyd gwasanaeth urddasol a chyflawn Mri D Lloyd a’i Feibion Glanrwyth ddiwrnod yr angladd.
Mae’r adnod a’r y daflen yn cyfleu y cyfan: “Oherwydd dewisais beidio a gwybod dim yn eich plith ond Iesu Grist ac yntau wedi ei groeshoelio.” Diolch am gael ei adnabod a boed i’r atgofion amdano fod yn felys.