Cynhaliwyd y 25ain Ffair Ram ar gae pentref Cwmann ar y 12fed Medi. Cafwyd diwrnod teg o ran tywydd a chefnogaeth dda yn ystod y dydd.
Testun balchder eleni oedd cael dathlu chwarter canrif o gynnal y sioe bentref. Talodd Eirios Jones, Cadeirydd Ffair Ram deyrnged i’r gwirfoddolwyr dros y blynyddoedd. Cafwyd arddangosfa o bosteri ac adroddiadau papur newydd yn y ganolfan hefyd.
Cafwyd gweithgareddau llwyddiannus yn ystod y dydd o dan lywyddiaeth Mr a Mrs Dafydd a Delyth Jones, Ffosyffin. Cafwyd araith bwrpasol gan Meleri’r ferch ar eu rhan.
Cafwyd cystadlu brwd ym mhob cystadleuaeth yn yr adrannau isod ac arddangosfa arbennig o dda o hen beiriannau.
Gwerthwyd y cynnyrch ar ddiwedd y dydd gan Ann Davies a chodwyd swm sylweddol tuag at Nyrsys Macmillan.
Dyma enillwyr y Gwobrau:
Adran Fferm – Gareth Russell, Llysiau a Ffrwythau – Stan Evans, Blodau – Muriel McMillan, Coginio – Pat Jones, Cyffeithiau / Gwinoedd – Helen Roberts,
Ysgol Feithrin – Eli Griffiths, Dosbarth Derbyn – Deina Evans, Blwyddyn 1 a 2 – Ellie Gregson, Blwyddyn 3 a 4 – Casi Gregson, Blwyddyn 5 a 6 – Gwenllian Llwyd, Ysgol Uwchradd – Shannon Jones,
Arlunwaith a Ffotos – Helen Davies, Crefftau Cefn Gwlad – Alun Jones, Gwaith Llaw – Eirlys Jones,
Adran y Defaid – Felindre,
Cwpan Sialens Felindre Uchaf – Stan Evans, Cwpan Sialens Felindre Isaf – Hendai, Cwpan Sialens Wyn a Mary – Carwyn Lewis, Cwpan Sialens Eric Harries – Tomos Jones, Cwpan Sialens Teulu Hendai – Carwyn Lewis, Cwpan Sialens Dalgety – Carwyn Lewis, Cwpan Sialens Bronwydd – Helen Roberts.
Hoffai’r swyddogion ddiolch i bawb a fu’n helpu ac am bob cefnogaeth.
Gellir gweld mwy o luniau ar wefan Ffair Ram.