Eisteddfod CFfI Ceredigion – Llanwenog yn ennill eto

Owain Sgiv
gan Owain Sgiv
Côr Llanwenog ar lwyfan y Pafiliwn ym Mhontrhydfendigaid.
Côr Llanwenog ar lwyfan y Pafiliwn ym Mhontrhydfendigaid.

Clwb Llanwenog oedd enillwyr Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion unwaith eto, gan gipio’r cwpanau am y gwaith cartref a llwyfan.

Gorffenodd Llanwenog ar frig y tabl pwyntiau, gyda 118 pwyt – 36 pwynt yn glir o’u cymdogion, Pontsian oedd yn ail.

Ymhlith yr uchafbwyntiau iddyn nhw, roedd ennill y Meimio a’r Parti Deulais a llu o wobrau unigol ar draws y cystadlaethau.

Daeth Siwan Davies o’r clwb yn ail i Endaf Griffiths, enillydd Cadair Eisteddfod Llanbed, yng nghystadleuaeth y Gadair a Luned Mair o Lanwenog enillodd y gystadleuaeth Ryddiaeth.

Mae mwy, a’r canlyniadau llawn ar Golwg360.