Enillwyr Cenedlaethol

gan lena daniel

Cyflwyno casgliad o waith T Llew Jones am tua 5 munud oedd y dasg ar gyfer y partion llefaru yng Ngŵyl Haf Merched y Wawr eleni a Changen Llanbedr Pont Steffan a ddaeth i’r brig.

Merched y Wawr Llanbedr Pont Steffan.  Llun drwy garedigrwydd Ann Morgan.
Merched y Wawr Llanbedr Pont Steffan. Llun drwy garedigrwydd Ann Morgan.

Bu ein hyfforddwraig, Elin Williams wrthi’n ddiwyd yn dewis a dethol darnau o waith  T. Llew ar gyfer y gystadleuaeth, ac o gwmpas ford stafell fwyta ein Llywydd Mary Davies fe benderfynwyd yn unfrydol ein bod yn mynd amdani. Rhaid cyfaddef mai go dawel ac eithaf nerfus oedd  aelodau’r parti yn yr ymarfer cyntaf yma ond fe addawodd pawb fynd ati i ddysgu’r geiriau ar eu cof hyd eithaf eu gallu.  (Cofiwch fod y mwyafrif o’r aelodau heb lefaru rhyw lawr cyn hyn ac i fod yn deg ’roedd sawl un yn teimlo bach yn anghyffyrddus gyda’r syniad o ddysgu’r darn hir yma a pherfformio ar lwyfan o flaen cynulleidfa fawr mewn ychydig wythnosau!)

Ta beth, lan â ni i’r Garn, sef cartref Dafydd ac Elin, am yr ymarfer nesaf, a wir i chi ’roedd ambell i aelod wedi dysgu’r cyfan ar eu cof yn barod!! Bu Elin yn rhannu llinellau gwahanol allan i rhyw 6 unigolyn a mawr oedd y ryddhad i rai gan fod llai i ddysgu i bawb arall wedyn! Cafwyd gopi o lais Elin yn llefaru’r darn ar gryno ddisg a mae’n wir i ddweud fod llais Elin y Garn i glywed mewn sawl gwahanol fan dros yr wythnos neu ddwy wedi hynny- yn y car, yn yr heulfan, yn y gwely ac yn y blaen. ‘Roedd pethau’n mynd yn weddol hwylus ac Elin hynod wedi cyflwyno cerddoriaeth i’r perfformiad (trwy llais peraidd Verina Roberts.)  Cawd ambell i bwl dwl lle oedd rhai ddim yn canolbwyntio a dweud y geiriau anghywir, a wedyn wrth gwrs fe fyddai rhaid wherthin am sbel cyn tynnu ein hunain at ein gilydd a rhoi tro arall ar gofio beth oedd yn dod nesaf! O fewn dim mi ddaeth y parti bach yn weddol hyderus yn son am Cwmalltcafan, Carreg Bica, Traeth Llangrannog ag ati ac mi fuom digon mentrus i berfformio yn y cyfarfod misol a chael ymateb positif iawn gan ein cyd aelodau!

Bu tipyn o drafod ynglyn â phwy oedd yn mynd â cheir i Fachynlleth a pha liw oedd y wisg i fod ond yn y pendraw fe aeth Alwyn lan â ni mewn bws mini – yn ein gwisgoedd glas -i gystadlu yn yr ŵyl haf. Bu’n ddiwrnod 0 gyfarfodydd, cystadlaethau darts, dangos dan ddwrn, dominoes, crefftau heb anghofio siopa. Mae aelodau’r mudiad wedi bod yn casglu atygolion ail law a’r bwriad yw i godi arian at elusennau wrth werthu mynyddoedd o sgarffiau, mwclis, breichladau ag ati am bris rhad iawn (ges i ddwy freichled liwgar am £3- real fargen!).

O dipyn i beth mi ddaeth yr amser i gystadlu! Wedi ymarfer yn un o’r ystafelloedd dosbarth, a llyncu galwyn ne ddwy o “Bach Rescue Remedy” ymlaen ag aelodau o gangen Merched y Wawr cylch Llanbed i’r llwyfan – a whare teg mynd trwy’r darn HEB anghofio’r geiriau – ac yr un mor bwysig – heb ga’l pwl o wherthin hanner ffordd trwy’r perfformans! ‘Roedd Elin annwyl yn bles a rhaid cyfaddef fod ambell i aelod o’r parti yn eithaf hyderus …… Pan gyhoeddodd y beirniad Lowri Jones fod ein parti bach ni wedi ennill – wele wel wel,’roedd na sgrechen a gweiddi a dagrau hefyd! Cawsom lechen fawr i’r gangen a bobi coaster yr un i gofio!

Rhaid canmol Elin am y ffordd ysgafn  hwylus iddi gynnal pob ymarfer wrth hyfforddi’r parti a diolch hefyd i Dafydd am y croeso ar yr aelwyd (a diolch MAWR iddo am beidio ein beirniadu yn hallt wedi i ni wneud annibendod llwyr wrth iddo wrando arnom yn un o’r ymarferion olaf).  Braf yw cofnodi llwyddiant 2 barti arall o Geredigion sef Felinfach a ddaeth yn ail ac Aberystwyth a daeth yn drydydd. Llongyfarchiadau i Aberystwyth am ennill cystadleuaeth y sgetsh- fe gofiwn antics Dulcie o’r llwyfan am sbel…..

Gillian Jones yn ennill ar y Stori feicro.  Llun gan Elma Phillips.
Gillian Jones yn ennill ar y Stori feicro. Llun gan Elma Phillips.

‘Roedd yn ddiwrnod a hanner i Gangen Llanbed – yn enwedig wrth weld Gillian Jones, aelod newydd  yn ennill un o’r prif cystadlaethau sef ysgrifennu stori feicro. Cewch gyfle i ddarllen ei stori yn y rhifyn nesaf o CLONC ‘rwy’n siwr.  Llongyfarchiadau mawr iddi hi am ddod i’r brig yn ei hymgais gyntaf o gystadlu gyda’r mudiad.

Nol â ni am Aberaeron i ddathlu ac Elma wedi trefnu bod swper yn ein disgwyl yng Ngwesty’r Plu. ‘Roedd pob aelod yn bles iawn â llwyddiant y dydd a phawb yn cyfaddef bod y profiad o lefaru ar lefel cenedlaethol, er yn heriol ar brydiau, wedi bod yn un pleserus iawn a fydd yn aros yn y cof am hir! Diolch Elin a Mudiad Merched y Wawr am y cyfle.

Beth yw’r sialens nesaf nawr de …..