Pan oeddwn yn y ffermwr ifanc, deallais yn fuan mai dim ond unwaith y byddwn yn un-ar-hugain a chwech-ar-hugain oed i gystadlu. Ie dyna pam y soniais wrth swyddogion Bethel y dylsem fel eglwys ddathlu 175 o flynyddoedd bodolaeth Eglwys Bethel Parcyrhos.
Yng Nglanrhyd Parcyrhos bu Annibynwyr yr ardal sefydlu eu cartref parhaol cyntaf cyn adeiladu Bethel, ac felly yno dechreuwyd y bererindod ar y 6ed Medi eleni. Daeth tyrfa o ddeugain a mwy i gydgerdded traed yr hen ddisgyblion gynt.
Braint i mi oedd cael dweud gair cyn ymadael, a byrdwn fy neges oedd, “Boed i’r brwdfrydedd sydd yn y nghalon i gael ei hau yn eich calonnau chwithau, ac i lawenhau yng nghymdeithas yr Arglwydd Iesu. Ymunwch felly gyda fi i ail fyw y brwdfrydedd hwnnw ar Sul Mawrth 25ain 1860 wrth gerdded i Fethel am y tro cyntaf.”
Cafodd y pererinion eu hysbrydoli i ganu Calon Lân wrth gerdded o’r briffordd lawr am Fethel lle oedd tyrfa niferus yn ein disgwyl.
Clod i’r aelodau a’r plant ifanc presennol am gyflwyno oedfa deilwng o’r cyndadau a mamau ddwy ganrif yn ôl. Cyflwynwyd y gwasanaeth mewn gair, llun a chân, a diolch i bawb a gyfrannodd i oedfa ysbrydoledig.
Yn bendant gwireddwyd her y Parch T Burgess Jones yn 1960 i’r aelodau fel y gwelwyd ar daflen y dathlu “Codi’n cap i’r gorffennol, torchi’n llewys i’r dyfodol”. Her a gawsom yn y sgript neu ddrama cyflwynedig yn y gwasanaeth sef Cofio, Dathlu ac Ystyried y dyfodol.
Balchder mawr oedd gweld aelodau a chyn blant yr Ysgol Sul yn bresennol o Gaernarfon, Wrecsam, Henffordd a Hwlffordd, gyda’r ifanca ond 9 mis oed a’r hynaf yn nawdeg.
Yn y capel ceir arddangosfa ddiddorol iawn gyda’r hanes wedi’i gofnodi ar linell amser sydd yn ymestyn 8 llath. Dewch i’r cwrdd diolchgarwch ar Hydref 14 a chewch ail fyw Bethel y gorffennol.
Dydd fydd yn aros yn y cof am byth.
Gellir gweld mwy o luniau’r dathliadau a chopiau pdf o’r arddangosfeydd ar wefan Bethel.