Gwobr Arwr Anenwog Llanybydder

gan Nerys Morris
@CLlanybydder
@CLlanybydder

Enillodd Alan Wilson, sy’n aelod o bwyllgor Clwb Rygbi Llanybydder wobr Arwr Anenwog SSE SWALEC ddoe yn dilyn enwebiad gan y chwaraewyr am ei waith diflino i’r tîm dros 41 o flynyddoedd.

Ymddeolodd o chwarae dros Lanybydder 20 mlynedd yn ôl ond mae’n parhau i fod yn weithgar ac yn deyrngar i’r clwb.  Mae’n cefnogi’r clwb wrth baratoi’r gwisgoedd a’r offer ymarfer ac yn defnyddio ei sgiliau fel saer yn y clwb a’r ystafelloedd newid.

Enillodd grys rygbi Cymru wedi ei lofnodi gan gyn gapeiniaid Cymru a thocynnau i weld rowndiau terfynol SSE SWALEC yn Stadiwm y Mileniwm.

Nod y wobr yw adnabod cyfraniad i rygbi ar lawr gwlad a dathlu ymrwymiad unigolyn sy’n gweithio tu ôl i’r llenni bob blwyddyn.

Dywedodd Aled Jones, ysgrifennydd y clwb “Mae’n haeddu’r wobr.  Rwy mor hapus i weld Alan yn ennill.  Mae’n ŵr bonheddig ac yn gweithio mor galed dros y clwb.”

Llongyfarchiadau mawr iddo a diolch yn fawr am weithio mor galed dros y gymuned.