I bawb sy’ moyn byw yn lleol

Carys Mai
gan Carys Mai

Mewn holiadur a gynhaliwyd gan Fforwm Ble Ti’n Mynd i Fyw ym mis Rhagfyr 2014, dywedodd 91% o bobl ifanc Ceredigion nad yw gwybodaeth am opsiynau byw yn cael ei rhannu’n effeithiol.

Er mwyn taclo’r mater hwn, mae Fforwm Ble Ti’n Mynd i Fyw yn cynnal digwyddiad unigryw, rhad ac am ddim, fydd yn dod â chwmnïau, mudiadau ac arbenigwyr tai at ei gilydd, i gyd dan yr un to, i rannu gwybodaeth ac ateb cwestiynau’r bobl ifanc hynny sydd â’u bryd ar ymgartrefi yn y sir.

Bydd modd i bawb ddilyn taith o A i Y o’r opsiynau byw sydd ar gael iddynt, boed yn brynu tŷ ar y farchnad agored, gwneud cais cynllunio i adeiladu tŷ ar y fferm neu roi eu henw ar restr tai cymdeithasol y sir. Bydd y sesiwn galw heibio hwn, fydd ar ffurf stondinau gwybodaeth, yn gyfle unigryw i bobl ifanc fanteisio ar wybodaeth a phrofiad yr arbenigwyr fydd yn bresennol heb orfod poeni am gost.

Meddai Carys Mai, un o aelodau Fforwm Ble Ti’n Mynd i Fyw, “Rydym yn falch o allu trefnu digwyddiad fydd yn helpu’r 91% o’r bobl ifanc hynny wnaeth fynegi nad oeddent yn teimlo bod digon yn cael ei wneud i gyfathrebu gwybodaeth am opsiynau byw yn y sir. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Tai Ceredigion am noddi’r digwyddiad.”

Pryd: 5pm – 8pm, ddydd Mercher 29 Ebrill 2015

Ble: Y Ffreutur, Campws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Pwy fydd â stondin: Adran Gynllunio Cyngor Sir Ceredigion, Cyfreithiwr, Pensaer, Swyddog Tai Fforddiadwy, Tai Cantref, Tai Ceredigion, Ymgynghorydd Ariannol, Ymgynghorydd Cynllunio, Ymgynghorydd Morgeisi.

Poster_I Bawb Sy' Moyn Byw yn Lleol_TERFYNOL