Llwyddiant Prynhawn Corisma Cacs a Chân

gan lena daniel
Corisma Cacen a Chân
Corisma Cacen a Chân

Mae aelodau Côr Merched Corisma yn hoffi canu, cymdeithasu, bwyta a hefyd cefnogi’r gymuned.

Wrth eistedd o gwmpas ford cegin Tŷ Cerrig bu tipyn o drafod am sut i gyfuno’r hoffderau yma i godi arian at achos da. ‘Rydym yn trio trefnu rhywbeth bob yn ail flwyddyn at elusennau lleol ac yn y gorffennol nosweithiau caws a gwin bu’r arferiad. Wrth i’r cyfarfod trefnu fynd yn ei flaen ’roedd yn amlwg fod chwant rhywbeth gwahanol ar yr aelodau eleni, felly wedi pwyso a mesur tipyn dyma ein harweinyddes ddawnus a chreadigol yn dod lan â’r syniad o drefnu rhywbeth tebyg i’r Great British Bake Off – ond gyda slant gymunedol Gymreig arni.

Dyma gyfeiriad hollol newydd i’r merched ac wrth grafu pennau tipyn eto, dyma’r awgrym yn tyfu i fod yn gystadleuaeth rhwng gwahanol glybiau yn y pentref. Pan awd ati i restru’r holl wahanol fudiadau oedd yn bodoli yng Nghwmann cawd sioc rhyfedda i ddeall fod yna botensial o 8-10 pâr i gymryd rhan yn y fenter newydd gyffrous! Penderfynwyd gofyn i Sian Jenkins, un o reolwyr ffreutur Venue Wales Prifysgol y Drindod Dewi Sant, i feirniadu a holi o gwmpas am noddwyr i fod yn gymorth ariannol i’r fenter. Gyda diolch mawr i’n noddwyr – WD Lewis a’i fab, Emyr Jones Araul a Castell Howell Caerfyrddin – dyma fwrw ymlaen gyda threfniadau’r prynhawn.

Y beirniaid answyddogol
Y beirniaid answyddogol

Erbyn dydd Sadwrn diwethaf, Gorffennaf y 4ydd, ’roedd 9 pâr o gystadleuwyr yn cyrraedd Canolfan Gymunedol Cwmann yn awchu i ennill y Bêc Off Cymrieg cyntaf a welwyd yn hanes yr ardal.  Y 9 pâr oedd cynrychiolwyr o Glwb Ffermwyr Ifanc, Parti Sarn Helen, Sefydliad y Merched, Coedmor, Eglwys Sant Iago, Capel Bethel,  Merched Corisma, Pwyllgor y Pentref, Côr Cwmann a Clwb Gwawr. Dyma restr faith i chi sy’n adlewyrchu naws gymunedol y pentref i’r dim! Gan fod y fenter yma’n un hollol newydd, nid oedd patrwm pendant gan aelodau’r côr i’ w ddilyn felly bwrw ymlaen a byw mewn gobaith oedd trefn y dydd.

Cafodd y 9 pâr wybodaeth i ddod ag offer addurno eu byrddau’n unig ac y byddai ‘r côr yn darparu cynhwysion ac offer iddynt greu Te Prynhawn i 2 o flaen y beirniad! Bu tipyn o redeg, raso a thwrio gan aelodau’r côr cyn dydd Sadwrn oherwydd er bod y syniad yn un eithaf syml i’w redeg ar y dydd, roedd angen cael y cynhwysion i gyd yn barod a’r offer cwca a’r platiau cacennau tri lefel antîc pert mas o’r dreser er mwyn rhoi bach o sglein i’r fenter. Hefyd bu merched Corisma yn cwca mynydd o gacennau, brechdanau a phethau bach ffansi er mwyn bwydo’r dyrfa a ddaeth i gefnogi. Oherwydd y tywydd di-ddal sydd gennym rhaid oedd trefnu “Plan B” – a diolch i ‘r dynion ac ambell i ferch gref a chyhyrog am rhoi’r gazebos lan yn gyflym iawn bore glawiog y gystadleuaeth! ‘Roedd yna dipyn o densiwn tua 2 o’r gloch pnawn Sadwrn d’wetha’ rhaid cyfadde! Yn gyntaf ’roedd ambell i gystadleuwr yn cyffesu(!) iddynt golli cwsg wedi “gwirfoddoli” i wneud y fath beth, eraill yn teimlo fod y cystadlu ddim yn bwysig – cymryd rhan oedd yr unig fwriad … Yn sicr ’roedd aelodau Corisma yn poeni sut oedd y dydd yn mynd i droi allan, a druan â’n MC parchus, Dafydd Lewis, oedd wedi cytuno arwain y prynhawn ond heb rhyw lawer o arweiniad wrth y pwyllgor dibrofiad – anodd oedd y sefyllfa iddo ef hefyd!

Pawb yn mwynhau'r te
Pawb yn mwynhau’r te

Ynghanol yr holl ddryswch a’r ansicrwydd yma, gyda’r cacs safonol, y pebyll pert  a’r “bunting” lliwgar yn edrych yn smart iawn, dyma’r haul yn dechrau gwenu, Dafydd Lewis yn troi’r meic mlan a … “Croeso i Bêc Off Cymreig Corisma” amdani!! Nid oedd troi nôl nawr – roedd y syniad bach gwreiddiol yn dechrau dod i fwcwl – a ’na deimlad braf oedd gweld y prynhawn yn mynd yn ei flaen yn llwyddiannus dros ben! ‘Roedd y 9 pâr wedi eu harwain i mewn i’r Neuadd o’r ochr dywyll fel petai gan nad oeddynt ar unrhyw adeg yn cael yr hawl i weld beth oedd ar y ford cynhwysion tu allan o flaen llaw! I gymeradwyaeth wresog y dorf mi wnaeth Dafydd Lewis gyflwyno pob pâr yn eu tro ac yna wedi i Sian esbonio gofynion y sustem farcio – glendid, trefn, arddangos a blasu a hefyd yr hawl i 12 eitem yn unig o’r ford cynhwysion – dyma Dafydd yn cyhoeddi fod awr gan y parau i blesio’r beirniad! Ychydig eiliadau cyn iddynt ddechrau ar y paratoi dyma Carys yn gosod her i’r cystadleuwyr! Mae’n debyg i’r picen fach drymaf erioed cael ei chreu ym Mala y llynedd. Mi fyddai’r pâr gyda’r amcan agosaf yn cael y dewis cyntaf o’r ford bwysig – 30 eiliad ychwanegol ac o flaen y gweddill – sôn am gynnwrf!!  Merched Gwawr ddaeth â’r cynnig agosaf felly dyma nhw yn estyn yn awchus am gynhwysion ac offer cyn i 34 llaw arall ymuno yn y sgarmes i gael yn gywir beth oedd eisiau arnynt i gyrraedd y brig. I’r rhai sydd â diddordeb ’roedd y ford cynhwysion yn cynnwys gwahanol fathau o fara, hufen, siwgwr, cigoedd a ffrwythau, a hefyd cwstard, tartiau bach, “meringue nests”, sgons, jeli, menyn, mayonnaise ac yn y blaen. Ar y ford offer roedd bowlenni, whisgiau, setiau peipo, graters ac amryw o declynnau eraill falle fydde yn handi i rywun gyflawni’r dasg o ennill y gystadleuaeth!

Dafydd, Sian, Lena a bechgyn y Pwyllgor Pentref
Dafydd, Sian, Lena a bechgyn y Pwyllgor Pentref

Tra bod y naw pâr yn chwysu wrth y gystadleuaeth dyma aelodau merched Corisma yn mynd o gwmpas yn dorf yn arllwys te allan o debotau crand a chynnig danteithion blasus i bawb o’r standiau cacs antîc! Ynghanol yr holl rialtwch rhaid oedd canu ambell i gân fach ac er bod hanner dwsin o ganeuon wedi ei hymarfer ar gyfer diddannu’r gynulleidfa, dim ond dwy dawd i ben â chanu cyn i brysurdeb y prynhawn gymeryd drosto!

Yn sydyn, pan oedd aelodau Corisma yn dechrau teimlo’n gysurus gyda threfniadau’r arbrawf yma – dyma drychineb – wel bron! ‘Roedd yna din o tuna ar y ford cynhwysion ond nid oedd yr un o aelodau Corisma wedi meddwl am agorydd tin! Gan fod Lois yn byw ar bwys bant â hi i dwrio yn ei chegin am y teclyn pwysig yma. Yna dyma waedd am bin rolio – panics eto – nes i un o ferched creadigol y côr berswadio cystadleuydd fod potel yn gwneud yr un swydd yn union! Yr unig broblem arall oedd chwilio am mwy o lyfrau raffl gan bod y gwobrau  a brynwyd  gan y côr yn denu pobl hael i brynu gwerth £5 yn lle’r strip am bunt arferol!

Rhaid canmol y deunaw cogydd am eu dawn naturiol i droi’r cynhwysion i naw de prynhawn gwerth eu gweld! Mi welsom brechdannau tenau – i gyd yr un maint, cucumber wedi ei arddangos mewn ffordd oedd yn cwrlio yn urddasol, jeli wedi cael ei wasgu drwy sif a’i wasgaru mewn patrwm pert a llawer i enghraifft arall o feddwl chwim mewn amgylchiadau cyfyng!

Ynghanol llwyddiant y te prynhawn dyma’r pwyllgor hapus yn mynd cam ymhellach a chyhoeddu bod y dyrfa nawr yn rhan o’r beirniadu! Fe fyddai cynrhychiolydd o bob ford yn cael yr hawl i gerdded o gwmpas y naw te gorffenedig, adrodd nôl a cyhoeddu ei henillydd nhw – Dewis y Bobl fel petai! Wel o fewn dim roedd y dyrfa gyfan yn mynd o gwmpas ac yn canmol y naw pâr am eu hymdrechion creadigol. Rhaid sôn am y deunydd daeth y pariau brwdfrydig yma gyda nhw yn eu basgedi i arddurno eu fordydd – doilies posh, blodau ffresh, llestri a fyddai’n hollol gartrefol mewn rhaglen deledu antics, hyd yn oed potel o Prosecco i helpu’r bwyd fynd lawr!

Gwaneth ein MC holi i bob ford am ei enillydd nhw – yn gydradd cyntaf dewis y bobol oedd Parti Sarn Helen a’r Clwb Ffermwyr Ifanc! Tybed a fyddai’r beiriniad yn cytuno? Wel dyma chi feirniad craff. Mi wnaeth sylweddoli fod yna ychydig o “gam arwain” wedi bod yn mynd ymlaen yn ystod y cystadlu … roedd ambell i ford yn defnyddio cynhwysion nad oedd wedi’u gweld ar y ford cynhwysion!! Meddyliwch am y ffasiwn beth yn digwydd ! Hefyd roedd un o ‘r rheolau llym a osodwyd gan y pwyllfor trefnus wedi cael ei thorri, a hynny ar ddechrau’r cystadlu! ‘Roedd yn amlwg i bawb fod fwy ’na ddeuddeg eitem gan bob pâr gan fod yna SWOPO siwgwr, margarine, mayonnaise ag ati yn digwydd o’r cychwyn cyntaf! Mi fuodd Sian ddigon proffesiynnol i rhoi’r ddwy weithred dwyllodrus yma i’r neulltu a chyoeddi’r enillwyr fel a ganlyn …

Yn drydydd ac yn derbyn £10, oedd Lois a Nia o’r Clwb Ffermwyr Ifanc

Yn ail ac yn derbyn £20 oedd Ronnie a Eirwyn o’r  Pwyllgor Gwelliant

Rhiannon a Gwen - Parti Sarn Helen
Rhiannon a Gwen – Parti Sarn Helen

Yn gyntaf, ac yn derbyn llwy bren yr un wedi’u addurno gan Lyn, tad Carys ein harweinyddes, ynghyd a £40, cyhoeddwyd mai Gwen a Rhiannon o Barti Llefaru Sarn Helen oedd yn fuddugol! ‘Roedd y ddwy wrth eu bodd gyda’r anrhydedd a’r dorf yn ymfalchio yn eu llwyddiant! Gwerthwyd y te prynhawn llwyddiannus  mewn ocsiwn i Eiddig Jones am swm sylweddol a rhaid canmol yr enillwyr am ddychwelyd yr enillion ariannol nôl i goffrau’r elusen.

Cyhoeddwyd hefyd, er bod Bois Côr Cwmann yn edrych yn ddeniadol tu hwnt yn ei ffedogau smart, bod y ddwy Carol o Corisma yn ennill potel o Cava am wisg orau’r gystadleuaeth (bratiau “vintage”, wigs llwyd a sbectol secsi tu hwnt!) Cyn i Carys  ddiolch i bawb am eu cymorth gyda’r holl drefniadau dyma Sue Evans o Gwmni Gwin Llaethlliw yn cyflwyno poteli gwin i Gwynfor ac Emyr am eu nawdd ac i Dafydd a Sian am eu gwaith caled drwy’r prynhawn.

Cyn ymadael dyma Lena Daniel, Cadeirydd Corisma yn cyhoeddi fod yna dros £800 wedi ei gasglu tuag at gronfa Alzheimers. Swm anrhydeddus tu hwnt at achos teilwng iawn. Wrth droi am adre dyma hi’n gosod her i’r mudiadau oedd wedi cymeryd rhan i gynnal y sbri yma yn flynyddol – tybed pwy allai drefnu blwyddyn nesaf …

 

OL Nodyn ( wel 3 a dweud y gwir!)

‘Roedd yn braf gweld bobl yn y gynulleidfa yn ystod y prynhawn efallai na fyddai yn mentro mas gyda’r hwyr

Hot off the Press – Neges testun wrth aelod o Gôr Cwmann a Chapel Bethel ( gwisgo dwy hat!): ” Diolch i Gôr Corisma am drefnu prynhawn hwyliog, hapus a diddorol i gefn gwlad Cymru a thrwy hynny godi arian teilwng at achos da”

Diweddglo cadarnhaol ar ôl prynhawn da o waith – mae pawb yn lico clod yn ydi nhw!

Ceir mwy o luniau’r digwyddiad ar wefan Corisma.