Mae’r Nadolig yn amser da am lyfrau Cymraeg newydd, felly dyma ychydig o sylw i dri ohonynt o ddiddordeb lleol.
Hunangofiant Hen Labrwr
Un o drigolion ardal Papur Bro Clonc yw awdur y llyfr a lansiwyd yn ddiweddar yn Neuadd yr Hafod Gorsgoch. Yn Hunangofiant Hen Labrwr mae Tommy Williams, Nantfach, Alltyblaca wedi croniclo digwyddiadau ei fywyd.
Cyhoeddodd y penodau cyntaf yn Clonc, ac oherwydd yr ymateb ffafriol a gafodd fe benderfynodd gyhoeddi llyfr ar ei ben ei hun heb gymorth unrhyw gyhoeddwr na chymorth ariannol.
Yn ei golofn yn Clonc y mis hwn mae Dylan Iorwerth yn ysgrifennu “Roedd yna noson fawr yn neuadd ‘newydd’ Gorsgoch ddiwedd Tachwedd a’r rhesi ceir y tu allan yn dangos hynny. Y tu mewn, roedd rhan go lew o blwyfi Llanwenog a Llanwnnen (a’r tu hwnt) wedi crynhoi i ddathlu stori dyn cyffredin – yn ystyr gorau’r gair.”
“Yn wahanol i lawer gormod o hunangofiannau, nid enwau enwogion a selebs sy’n britho tudalennau Hunangofiant Hen Labrwr ond enwau pobol y pentrefi yn nyffryn Aeron a chanol dyffryn Teifi ac nid straeon llawn brol am fywyd fflachiog ond cofnod syml o sut oedd hi i fod yn was ffarm a labrwr yn y ganrif ddiwetha’.”
Dylai’r llyfr fod o ddiddordeb i bobl yr ardal hon a thu hwnt. Ychwanega Dylan Iorwerth “Does dim ochain hyd yn oed pan oedd bywyd yn galed ac mae’r adrodd uniongyrchol yn rhoi teimlad o sut oedd hi ffor’ hyn yn y dyddiau gynt.”
Hadau Ceredigion
Daeth y llyfr swmpus hwn gan Owain Llŷr i law gwirfoddolwyr Papur Bro Clonc yn ddiweddar.
Mae Hadau Ceredigion yn dilyn Owain Llŷr ar grwydr trwy Geredigion, yn dod i nabod y sir a rhai o’i golygfeydd a’i thrigolion hynotaf. Cyfrol weledol drawiadol ac eang ei hapêl sy’n llunio portread difyr mewn llun, gair a ffeithiau ffraeth o rai o drigolion, lleoliadau, traddodiadau a chreaduriaid Ceredigion.
Mae Owain Llŷr eisoes yn adnabyddus fel cyfarwyddwr y rhaglen ddogfen Bois y Loris ar S4C a’r ffilm ddogfen La Casa di Dio, sy’n olrhain hanes creu Eglwys y Galon Sanctaidd yn Henllan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, stori ddifyr sy’n cael sylw yn y llyfr hwn.
Yn ogystal â hynny, rhoddir cipolwg o wahanol ageddau o’r rhan hon o Gymru gan gynnwys peth hanes ardal Llanbed a Llanfair Clydogau.
O Ffyrgi i Ffaro – Hunangofiant Bryan yr Organ
Ddydd Sadwrn diwethaf, bu Bryan yr Organ yn llofnodi ei lyfr newydd yn siop y Smotyn Du yn Llanbed.
Dyma hanes aderyn brith – Bryan yr Organ a ddaeth i enwogrwydd drwy ei antics ar YouTube adeg gêm rybgi ryngwladol. Heb yn wybod iddo fe ffilmiodd ei fab ef yn mynd dros ben llestri wrth gefnogi tîm Cymru a daeth yn seren dros nos wrth i filoedd o bobol wylio’r clip.
Bellach mae Bryan hefyd yn un o gymeriadau cyson rhaglen Tommo ar Radio Cymru ac mae’n wyneb adnabyddus ar raglen Jonathan ar S4C. Ond y mae mwy i Bryan yr Organ na dim ond ei organ. Mae Bryan wedi cael sawl swydd yn ei fywyd, bellach mae’n gyrru bysiau ysgol. Ond mae sawl stori goch ganddo i’w hadrodd.
Yn gefndir i’r ffaith ei fod yn gymeriad y mae hanes trist ei fywyd cynnar sef iddo gael ei fabwysiadu. Y mae Bryan am archwilio’r llon a’r lleddf yn ei fywyd yn y gyfrol hon. Mae Bryan yr Organ yn un o gymeriadau lliwgar cefn gwlad Ceredigion.