Diwydiant a diwylliant yn un i ddathlu penblwydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn drigain oed. Mae aelodau’r Undeb yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin yn cydweithio i drefnu clamp o Noson Lawen yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae’r Noson sy’n cael ei chynnal yn Neuadd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar nos Sadwrn Mai 23 am 7.30 ac yn rhoi llwyfan i rai o dalentau amlycaf y ddwy sir. Mae raffl sy’n gysylltiedig â’r Noson yn cynnig gwobrau arbennig iawn sy’n cynnwys tocynnau teulu i Sioe Fawr Llanelwedd ac i sioeau Sir Benfro ac Aberystwyth.
Bydd elw’r noson yn cael ei gyflwyno i hospis Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith – elusenau dewisiedig Llywydd yr Undeb Emyr Jones.
Mae Elin Jones Aelod Cynulliad Ceredigion a Chyn-Weinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wedi derbyn gwahoddiad i fod yn Llywydd y Noson Lawen. Nodwyd hen ewythr Elin, y diweddar J B Evans fel prif symbylydd yr Undeb a chredai llawer na fyddai’r Undeb wedi gweld golau dydd heb ei gyfraniad ef 60 mlynedd yn ôl.
Brian Walters, Caerfyrddin, un o Is- Lywyddion ac un o wynebau mwyaf cyfarwydd yr Undeb, sydd yn cyflwyno’r noson ac mae’r artistiaid yn adlewyrchiad o’r talentau gorau sydd wedi codi o ddaear y ddwy sir ac yn cynnwys – Ifan Gruffydd, Tregaron, Eirlys Myfanwy, Llanelli, Clive Edwards, HendyGwyn, Rhys a Fflur Griffiths, Bethania, CFFI Llangadog a Chȏr Meibion y Mynydd, Ponterwyd dan arweiniad Caryl Jones.
Atyniad arall ar y rhaglen fydd lleisiau unigryw Aled ac Eleri Edwards, Cil-y-cwm. Mae’r ddau yn enillwyr y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae Aled yn adnabyddus hefyd fel bridiwr gwartheg Limousin ac ar hyn o bryd mae’n Llywydd cyngor rhyngwladol y brid.
“Mae’r holl artistiaid â chysylltiad ac amaethyddiaeth ac mae hyn yn bwysig iawn i ni” meddai Emyr Jones Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru
“Mae Llambed yn ganolfan hwylus i ddwy sir gyfarfod mewn noson sy’n argoeli at fod yn ddigwyddiad hwyliog a chymdeithasol.
“Yn ogystal a bod yn barti penblwydd mae’r Noson Lawen hefyd yn ddathliad o gyfraniad enfawr y diwydiant amaeth i fywyd cymunedol, i’r diwylliant Cymreig ac yn arbennig at gynnal yr iaith Gymraeg yng nghefngwlad”, meddai.
Mae tocynnau yn £10 i oedolion a £4 i blant ac ar gael o swyddfa’r Undeb 21 Stryd Fawr, Llambed 01570 422556.