Noson o Fywyd Gwyllt Cymru

gan cheryl
Iolo, Cheryl a Rhun
Iolo, Cheryl a Rhun

Ar nos Iau 22ain Hydref, yn Neuadd y Celfyddydau Llanbedr pont Steffan, cynhaliwyd noson o ‘Fywyd Gwyllt Cymru’ yng nghwmni Iolo Williams, sef naturiaethwr adnabyddus, a chyflwynydd gyda S4C a’r BBC. Mewn noson ddiddorol dros ben, fe’n cyflwynwyd i amrywiaeth anhygoel bywyd gwyllt Cymru!

Fe aeth Iolo â ni ar siwrne o amgylch Cymru, o’r ucheldiroedd i’r gweundiroedd, coetiroedd, ar hyd yr arfordir, i’r ynysoedd, ac yn gorffen o dan y dŵr yn ein moroedd. Gwnaeth hynny trwy ddangos nifer o luniau hardd o adar, mamaliaid, blodau a phryfed, rhai yn brin ac eraill yn gyfarwydd.

Siaradodd Iolo gyda chynulleidfa hwylus am awr a hanner, cyn gadael hanner awr am gwestiynau, ond roedd y sgwrsio mor ddifyr, aeth y noson ymlaen yn hwyrach na’r disgwyl.

Cyflwynwyd y noson mewn dull personol, wrth gyfuno hanes, ffeithiau a lluniau gwych gyda digonedd o hiwmor a thynnu coes, dull a oedd yn apelio yn fawr at y gynulleidfa gymysg o oedolion a phlant o bob oedran. Pleser mawr oedd gweld y plant yn eistedd ar flaen eu seddi ac yn fodlon gofyn cwestiynau o safon.

Roedd hi’n braf gweld cymaint o bobl yn troi lan i gefnogi achos mor dda ar nos Iau yn Llambed, gyda chynulleidfa o tua 170 yn dangos eu gwerthfawrogiad. Gwnaeth pawb fwynhau mas draw, a dysgu ffeithiau difyr mewn ffordd mor hamddenol.

Roeddem yn ffodus iawn hefyd i gael nifer o DVDs cyfres ‘ natur Cymru’ gan Iolo Williams, pob un wedi eu harwyddo gan y dyn ei hun, a gwerthwyd pob un ar y noson gan godi hyd yn oed mwy o arian ar gyfer ysbyty cancr Felindre. Fe glywyd ambell i stori bod rhai o’r plant oedd yna ar y noson yn treulio bron pob nos ers hynny yn gwylio’r DVD yma! Mae hyn yn dangos yr effaith cafodd y noson arnyn nhw, a gwych yw clywed hynny!

Roedd holl gyfraniadau’r noson yn mynd at Ganolfan Ymchwil Cancr Felindre, oherwydd bod dau berson a’u gwreiddiau o Lambed yn codi arian tuag at yr elusen holl bwysig yma wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer taith i Batagonia ar yr 22ain o Dachwedd eleni. Bydd Rhun a Cheryl yn dilyn ôl traed ein cyndeidiau, wrth iddynt ddathlu 150 mlynedd ers glaniad Cymru yn ne America wrth ymgymryd â’r her arbennig yma. Bydd y daith 8 diwrnod yn mynd a nhw trwy fforestydd, dros fynyddoedd yr Andes, dyffrynnoedd rhewlifol a golygfeydd syfrdanol. Byddant yn gwersylla, cario cit eu hunain a cherdded o fore tan nos pob dydd.

Mae Cheryl a Rhun yn ddyledus iawn i bawb am eu caredigrwydd, ac wrth gwrs, i Iolo am roi ei amser i gefnogi elusen sydd mor bwysig, a hefyd i aros ymlaen ar ôl siarad i dynnu lluniau gyda’r plant. Roedd hi’n noson arbennig iawn i gymdeithas unigryw Llambed a’r ardal. Mae’n fraint cael dweud bod y swm anhygoel o £1655.00 wedi cael ei godi ar y noson. Diolch o waelod calon i bob un ohonoch am y gefnogaeth, ac am wneud y noson yn un llwyddiannus dros ben.