Rasys Moch C.Ff.I. Cwmann

gan Aled Bowen
Moch CFfI Cwmann
Moch CFfI Cwmann

Nos Wener 10 Ebrill cynhaliodd Clwb Ffermwyr Ifanc Cwmann noson rasys moch yng Nghlwb Rygbi Llambed, gyda’r bwriad o godi arian tuag at y clwb ac i gymdeithas clefyd motor niwron. Gwerthwyd y rhan fwyaf o’r moch cyn y nosweth a chafwyd noddwyr i bob un o’r rasys – diolch i bawb a brynodd fochyn ac a noddodd ras. Gwerthwyd y moch oedd dros ben mewn arwerthiant ar y nosweth gyda phawb yn rhoi’n hael at yr achos, diolch iddyn nhw. Hefyd cynhaliwyd raffl gyda sawl busnes lleol wedi rhoi gwobr  i’r enillwyr.

Mochyn buddugol Llion a Beca
Mochyn buddugol Llion a Beca

Yr arweinydd oedd Dafydd Lewis W.D., ac roedd pawb yn gytûn ei fod e wedi gwneud job ffantastig yn llywio’r noson. Roedd pump rhagras, gyda’r enillydd o bob ras yn mynd i’r ras derfynol. Roedd y ras derfynol yn un agos, yn llawn bwrlwm a thensiwn, ond daeth y mochyn o eiddo Llion a Beca Russell i’r brig, gyda Llion fel y joci buddugol. Hoffem fel clwb ddiolch i bawb a daeth ac i bawb sydd wedi cefnogi gan roi’n hael. Y cyfanswm a godwyd oedd £2,871.60.