Ar fore ddydd Sul, Ebrill 26ain tyrrodd hanner cant o bentrefwyr Plwyf Llanwenog a thu hwnt i Dafarn Cefn-Hafod, Gorsgoch i ymuno ar Daith Dros Fywyd Cyngor Cymuned Llanwenog. Ar y diwrnod hwn mae teithiau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad i godi arian i elusen Sefydliad Aren Cymru, dyma’r ail waith yn olynol i’r Cyngor Cymuned drefnu taith gerdded i’r elusen. Trefnwyd ein taith ni gan Gadeirydd y Cyngor Cymuned, Geraint Hatcher.
Aeth y dyrfa, pawb ar liwt eu hunain, (a rhai yn cael eu tynnu gan ambell i gi), heibio hen ysgol gynradd Gorsgoch, i fewn i Blwyf Llanarth, ar hyd llwybr cyhoeddus yn dilyn yr afon Grannell a chael cyfle i dynnu anal wrth i Dai Penlan-Noeth ddangos safle hen Gastell Penlan ini, hen gastell tomen a beili tybiwn ni sydd yn cael ei ddiogelu fel ardal o gadwraeth gan sefydliad CADW.
Ymlaen wedyn i weld man claddu gŵr a gwraig, adroddwyd yr hanes gan Byron Hafod y Gors, dywedodd bod y pâr wedi cwmpo mas gyda’r ddeioniaeth ac felly prynwyd y tir hwn ganddynt oddeutu 1905 er mwyn cael man i’w claddu. Roedd siap y bedd i’w weld yn eglur hyd heddiw fel mae’r llun isod yn ei ddangos.
Dringo eto wedyn drwy glos fferm Penlan-Noeth ac i fynu at Gastell Moeddyn a chael 5 munud fach i edmygu’r olygfa godidog o’r man hwn. Roedd hi’n ddiwrnod clir a dim cwmwl yn yr awyr wrth ini edrych draw ar fynyddoedd Llanllwni a Phencarreg ac yna thros bentref Cribyn ac ymhellach at Ddyffryn Aeron. Dywedodd un gŵr wrth sefyll yn geg agored ar safle’r hen gastell, “dyma baradwys”, a phwy all fod wedi dadlau gydag ef ar y foment honno.
Troi am nôl wedyn ar hyd y ffordd fawr nôl i dafarn Cefn-Hafod am gawl cartref Eiddwen a llymaid llon i dorri syched gyda phawb wedi cwblhau’r 5 milltir!
Derbyniwyd £620.00 o arian nawdd ar y diwrnod gyda mwy i ddod, bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i elusen Sefydliad Aren Cymru mewn cinio mawreddog nes mlaen yn y flwyddyn. Diolch i’r Cyng Geraint Hatcher am drefnu, i’r tywyswyr ar hyd y daith, i’r gyrrwyr a ddarparodd lifft i un neu ddau a dŵr ini gyd, ac i Dafarn Cefn-Hafod am y croeso a’r lluniaeth.
Roedd hi’n fore bendigedig o gloncan a dysgu am ein milltir sgwar, yn aml yr ydym yn anymwybodol o’r cyfoeth o hanes sydd ar garreg y drws.
Daeth criw ynghyd yng Nghwmann hefyd dan arweiniad Phillip Lodwick. Aed am dro o Ysgol Carreg Hirfaen heibio Bwlchnewydd i Barc y Rhos, troi ar Sgwar Brynmanalog i lawr am Gilgell i’r hewl fawr a nol heibio Ddeunant Hall i Barc y Rhos ac Ysgol Carreg Hirfaen eto.
Cyflwynwyd £600 y llynedd tuag at yr achos ac mae’r arian eleni dal i ddod mewn. Diolch i Phillip a Cerys am dywys y daith ac i bawb a gefnogodd.