Taith gerdded rhanbarth Ceredigion Merched y Wawr i Bumlumon

gan lena daniel

Pan holodd Mary Davies, Llywydd Merched y Wawr Llanbed, pwy oedd â diddordeb yn mynd ar daith gerdded i ben Pumlumon ym mis Mehefin mi roes fy enw lawr yn syth heb feddwl dwywaith. Mae rhai bobl yn mynd ar fordaith foethus ar ôl ymddeol ond mae sawl ardal o’m cwmpas yn ddiethr iawn i mi ac ’roedd darganfod mwy am ardaloedd lleol yn un o’r pethau oedd ar fy rhestr o bethau i’w cyflawni ar ôl gorffen dysgu.

Felly dyma edrych ymlaen yn eiddgar am y fenter yma o gael y cyfle i weld sir Ceredigion a’i holl ogoniant o gopa Pumlumon. Rhaid cyfadde yn y fan a’r lle pan agorais y llenni bore Sadwrn diwethaf nid oeddwn yn teimlo mor frwydfrydig â hynny! ‘Roedd yn amhosib gweld rhyw lawer mas trwy’r ffenest heb son am ar ben Plumlumon oherwydd y niwl ar glaw mân! Yr addewid gan y bobl tywydd oedd fod pethau yn mynd i glirio erbyn canol bore. Gan ein bod i fod ymgynnull yn y maes parcio yn Eisteddfa Gurig am 10:30 ’roeddwn yn weddol ffyddiog bod diwrnod bendigedig o’m blaen! Wedi paco’r brechdannau, y tywel a’r eli haul, ’roeddwn yn barod am bob tywydd. Chi’n cofio’r poster yna am ymuno ’da’r fyddin a gweld y byd? Wel ’roeddwn i newydd ymuno ’da Merched y Wawr ac ar fy ffordd i weld top Plumlumon!

pumlumon_os

Dyma fi, Eryl, Mary a Verina yn cwrdd yn nhŷ Ann y dreifer, a lan â ni am Dregaron, trwy Bontrhydfendigaid, Ffair Rhos, Ysbyty Ystwyth a chyrraedd  Eistedfa Gurig yn brydlon. Yno fe gwrddon ni ag aelodau o fudiadau Merched y Wawr cylch Aberystwyth a dechrau siarad a dod i adnabod ein gilydd wrth wisgo yn addas ar gyfer y tywydd. Yn anffodus ’roedd y niwl heb glirio ond doedd hi ddim yn bwrw glaw … ar y pryd! Daeth Erwyd Howells, ein arweinydd i gwrdd â ni yn llawn egni a brwdfrydedd, ac ar ôl i Ada Evans y Llywydd rhanbarthol ein croesawu i gyd dyma ni bant ar y wâc hir ddisgwyliedig.

Dyna chi ddyn diddorol, egniol yw Erwyd Howells. Mi ’roedd yn gwybod enwau pob cae o’n cwmpas ac yn adrodd hanes y ffermwyr lleol gan fynd nôl sawl cenhedlaeth. Dyma ddyn sy’n ymfalchio yn ei wreiddiau ac yn awyddus iawn i rannu ei wybodaeth gydag eraill. Mi esboniodd ei fod wedi bod yn ymchwilio i enwau yr holl gaeau ac wedi cyflwyno copi o’i gofnodion i Lyfrgell Aberystwyth er mwyn eu cadw mewn cof. ‘Roedd y gallu ganddo i  adnabod a hyd yn oed dynwared chwibannau yr adar a glywsom, a hefyd rhestru mewn Cymraeg, Saesneg a Lladin enwau’r planhigion a welsom ar y daith. O fewn dim sylweddolom ein bod mewn cwmni dyn gwybodus tu hwnt – dyn a oedd  yn ymhyfrydu yn  hanes amaethu ar hyd y blynyddoedd ac yn falch o draddodiadau ei gyndadau.  Nid oedd y glaw mân yn fy mhoeni rhyw lawer gan fod gwrando ar Erwyd mor ddiddorol a rhaid cofio wrth gwrs am ragolygon y dyn tywydd – roedd hi’n mynd i glirio – roeddwn yn trio anghofio bod canol bore wedi hen fynd – beth yw awr neu ddwy o wahaniaeth i weld yr haul trwy’r niwl pan chi’n cael y fraint o wrando ar rywun mor dalentog ag Erwyd Howells!

Y trueni mawr yw fy mod wedi paco eli haul yn lle papur a pensil oherwydd mi ’roedd Erwyd yn rhestru enwau Cymraeg hyfryd ar yr holl adar a phlanhigion a welsom ond amhosib oedd eu cofio. Mi gofiaf un – rhyw dwmpyn o fwswg siâp seren gyda choes hir frown – Sidan Pen goch. Esboniodd bod y ffermwyr slawer dydd yn defnyddio hwn o gwmpas gwddwf dafad i’w chlymu rhag crwydro nes ei bod yn dod yn gyfarwydd â’r mynydd. ‘Rwy’n siŵr fod hwn ’da fi yn yr ardd adre ond esboniodd Erwyd mai dim ond ar dir uchel ’roedd yn tyfu. Cytunodd aelod o Lanilar gyda fi – ’roedd hi’n credu ei fod yn tyfu gyda hi hefyd! Ta beth rwy’n cyfeirio y mwswg salw yr olwg sy’n tyfu’n wyllt mas y bac yn Sidan Pen goch o hyn allan!

Rhaid cyfadde fod ambell i “fryn” bach yn peri i mi orfod anadlu’n ddwfn. Mi ddwedes wrth fy hun am beidio cwyno gan mai fi oedd yr ifancaf ar y daith (fi’n credu ta beth) a chnoi ‘nhafod bu rhaid wrth i’r glaw ddod lawr yn drymach. Ta beth o ni’n olreit achos fod “waterproofs” amdanaf a fydde tywel sych yn fy nisgwyl nôl yn car Ann!

Esboniodd Erwyd fod Nant y Moch i’n chwith – ’na gyd welodd aelodau parchus Merched y Wawr Rhanbarth Ceredigion oedd ffens! Trueni, ond ymlaen â ni gan obeithio efallai fyddai pethau’n gwella wrth fynd am y top!

Tua 1 dyma aros am ginio – wel ’na beth oedd newyddion da – a llyncu’r frechdan ffeina erioed i mi flasu – gyda bach o law a’i phen yn ychwanegu i’r dileit! Bwyta yogyrt wedyn wrth bwyso yn erbyn y ffens lle bod y gwynt yn fy mwrw i’r llawr – a dechrau diawlo’r boi tywydd celwyddog ’na! Ymlaen â ni – a finne am regi mas yn uchel erbyn hyn. ‘Roedd y sefyllfa yn wir druenus! Dyma Erwyd yn penderfynnu oherwydd Iechyd a Diogelwch ni fyddai’n bosib i ni fynd lawr y ffordd roedd e wedi meddwl – felly wrth frwydro am lan – roeddwn yn gwybod fyddai rhaid dod nôl yr holl ffordd hyn eto! Erbyn hyn ’roedd y “waterproofs” yn gelwyddog hefyd a’r glonc wedi distewi wrth i ni gyd frwydro yn erbyn y gwynt a’r glaw. Ar un adeg dim ond “sgwelsh” y sgidiau gwlyb oedd i glywed! OND nid oedd neb yn cwyno – pawb yn ymateb yn ddewr iawn i’r her o weithio fel tîm i frwydro mlaen. Yng nghanol yr holl nerfusrwydd ac ansicrwydd yma o fod allan yn siwt dywydd, dyma Erwyd yn clapo ei ddwylo ac yn gweiddi i ni dawelu. Yng nghanol popeth fe glywon sŵn y gwcw yn canu – wel am foment emosiynol! Nid oeddwn wedi ei chlywed ar fryniau Cellan eleni – ond o’i chlywed yn y fath amgylchiadau – ’roedd yn codi’r galon yng nghanol y tywydd twyllodrus!

Cyn bo hir dyma Ada y Llywydd Rhanbarthol a oedd wedi trefnu’r trip yn gweiddi enw Erwyd ac yn dweud wrtho ei bod yn gwneud y penderfyniad o droi nôl cyn cyrraedd y copa. Nawr nid oeddwn wedi cwrdd â’r ledi yma o’r blaen ac o ganlyniad ddim yn ei hadnabod yn dda – ond bu bron i mi roi cusan a chofleidiad anferth iddi yn y fan a’r lle! Rhag ofn i mi – babi’r grŵp – ymddangos yn bach o wimp, dyma fi yn holi iddi “Chi’n siŵr?” gan weddio ei bod yn bendant am y penderfyniad achub bywyd yma! Dyma Erwyd yn cytuno am resymau iechyd a diogelwch rhaid byddai troi am nôl cyn cyrraedd y top. Esboniodd fod copa Pumlumon yn 2468 troedfedd (cofiwch mai 3000 troedfedd yw’r Wyddfa) a rhoddodd glod i ni am wneud ymdrech arbennig i geisio cyrraedd y brig – ond dyna ni – bai’r boi tywydd i gyd!

Ymuno â Merched y Wawr a chael dillad isaf gwlyb oedd y neges erbyn cyrraedd nôl i’r car – nid oedd hyd yn oed y tywel wedi helpu rhyw lawer, a fi wir yn credu i mi weld mwy o ddŵr na phetaen ni wedi bod ar fordaith foethus i ddathlu fy ymddeoliad!

Wrth grynhoi, y cwestiwn MAWR yw a fyddem yn mynd eto … Anodd fydd anghofio storiau a ffeithiau diddorol Erwyd a braf oedd clywed y gwcw a chwrdd ag aelodau newydd y Mudiad. Hefyd rhan o fwriad y fenter oedd casglu arian tuag at Ymchwil y Galon felly daeth llawer o bethau da allan o’r niwl a’r glaw trwm. Hefyd mi ddysgais fod ’da fi Sidan Pengoch yn yr ardd. Wrth gwrs bydd rhaid mynd eto – ond heb ffwdanu gwrando ar rhagolygon y boi tywydd y tro nesa!

(Gyda llaw – ymddiheuriadau lu i Ann am fod seddi gwlyb yn y car erbyn i ni gyrraedd nôl yn Llanbed!)

Ôl Nodyn.

Mi welais Sian”Gwili” Jones ar y Nos Sul wedi’r daith lawiog. ‘Roedd hi wedi bod lan Pumlumon am 2 o’r gloch y bore er mwyn gweld yr haul yn codi ar ddiwrnod hira’r flwyddyn. Petai hi wedi sôn wrtha’ i am olygfeydd godidog a thywydd heulog ni fyddem yn rhy hapus! Yn anffodus dim ond ffens welodd hi hefyd, ond fe gaeth frecwast blasus iawn nôl ym Mhontarfynach yn dilyn ei antur canol nos! Bydd RHAID mynd eto!