Bu Noddfa Llambed yn fwrlwm hapus ar nos Lun y 6ed o Orffennaf, pan lansiwyd cyfrol newydd y Parchedig Athro Densil Morgan, sef Y Deugain Mlynedd Hyn.
Mae’r gyfrol yn cyflwyno o’r newydd benodau o waith Densil a welodd olau dydd gyntaf ar wahanol adegau o ddeugain mlynedd ei yrfa fel gweinidog a diwinydd, a’u clymu ynghyd â’r bennod olaf hunangofiannol.
Ers bod Densil ac Ann wedi symud i Lambed yn 2010 cawsan nhw eu lle yn gartrefol iawn yn y dref ac yn Noddfa, a gobeithio y bydd prynu mawr ar y gyfrol hon o waith un o’n pobl ni!
Yn y llun uchod gwelir y Parchg Ddr Desmond Davies, a gyflwynodd air o werthfawrogiad, y Parchg Aled Davies, ar ran Cyhoeddiadau’r Gair, a’r Parchg Athro Densil Morgan.
Ond cewch well flas ar naws y noson yn yr ail lun!