Ymgyrch codi arian tuag at Clefyd y Siwgr Math 1 (JDRF)

Eryl Evans
gan Eryl Evans
Y beicwyr yn barod i adael y Clwb Rygbi.
Y beicwyr yn barod i adael y Clwb Rygbi.

Ddydd Sadwrn, Awst 22ain, cynhaliwyd diwrnod o weithgareddau yng Nghlwb Rygbi Llambed i godi arian at elusen JDRF sef ymchwil i glefyd y siwgr. Mae Clefyd y Siwgr, neu Diabetes yn effeithio ar blant a phobl ifainc, gan amlaf ac yn gyflwr sy’n trawsnewid bywydau y rhai sy’n dioddef o’r cyflwr.  Mae’r elusen JDRF yn buddsoddi mewn ymchwil i wella’r driniaeth ohono a’r nod yn y pendraw yw darganfod ateb a fydd yn arwain at wellhad llwyr ohono.

Er gwaethaf glaw trwm y bore, mentrodd bron i gant o seiclwyr o bob oed a gallu i ddilyn y tair gwahanol gylchdaith o fewn yr ardal, yn amrywio o bellterau 9, 25 a 40 milltir. Bonws, yn wir, erbyn y prynhawn, oedd gweld yr haul yn ymddangos o’r cymylau i greu amodau seiclo ffafriol iawn.

Gyda’r nos, rhostiwyd mochyn a pharatowyd bwyd arbennig gan Mair a Tony Hatcher o Gwmni Cegin Gwenog, a dilynwyd hynny gan raffl, ocsiwn a cherddoriaeth fyw gan fand lleol y ‘Golden Geckos’. Croesawyd Dr Simon Fountainpolly, Pediatrydd o Ysbyty Bronglais a chafwyd ganddo araith bwrpasol at yr achlysur. Braf iawn oedd gweld y Clwb dan ei sang a phawb yn cefnogi’r achos mor hael ac yn manteisio ar y cyfle i gymdeithasu, yn ogystal!

Bu’n ddiwrnod hynod o lwyddiannus a llwyddwyd i godi swm sylweddol iawn o oddeutu £6,000, ac mae’r cyfraniadau yn parhau i ddod i law. Rhyddheir gwybodaeth am y ffigwr terfynol a drosglwyddwyd i elusen JDRF o fewn yr wythnosau nesaf.

Rhai'r beicwyr a fu'n cymryd rhan.
Rhai’r beicwyr a fu’n cymryd rhan.

Diolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn gwahanol ffyrdd i sicrhau llwyddiant yr ymgyrch. Diolch arbennig i’r seiclwyr, o bell ac agos, am eu cefnogaeth a’u cyfraniadau ac i bawb wnaeth gefnogi drwy ymuno å’r gweithgareddau gyda’r nos. Hefyd, i bawb a gyflwynodd eitemau ar gyfer yr ocsiwn a’r gwobrau raffl ac am y llu cyfraniadau ariannol dderbyniwyd at yr achos.