Roedd Sian Elin, Pencarreg yn rhan o’r tîm siarad cyhoeddus buddugol yn Eisteddfod yr Urdd eleni a derbyniodd dlws y siaradwr gorau. Fel rhan o’i gwobr cafodd fynd i ymweld â Senedd Ewrop ym Mrwsel. Dyma hi yn rhannu’r profiad â darllenwyr Clonc360.
Helo,
Dim ond neges fach i ddweud am fy nhaith i Frwsel i ymweld â’r senedd Ewropeaidd! Roedd yn gyfle ffantastig!
Aeth Holly a finnau ar y trên o Aberystwyth am 8.30 ar fore Mawrth, 7fed o Orffenaf 2015! Hedfanom o Birmingham International am 14.10, ac yna cyrraedd Brwsel am 16.30.
Nos fawrth cawsom gyfle i ymweld â chanol Brwsel a swper ger y Grand Place lle gwnaeth Nia Lewis, merch o Aberteifi sy’n swyddog Llywodraeth Cymru, ymuno â ni. Cawsom llawer o hwyl yn trafod ei gwaith.
Cawsom gyfle i ymweld â Swyddfa Llywodraeth Cymru am 9am ac i gwrdd â rhai o’r Swyddogion. Yna nôl i swyddfa Tom Jones i eistedd mewn ar gyfarfod o’r Social Economy Group. Roedd hyn yn effeithiol iawn gan eu bod yn rhoi tipyn o hanes sefyllfa economi’r wlad ac i ddeall fod nifer o wledydd yn yr un sefyllfa â ni. Aethom yna i’r Senedd Ewropeaidd i gwrdd a’r Ymchwilydd Derek Vaughan MEP. (Roedd yr Aelodau bant yn Strasbourg yn anffodus.)
Roedd yn brofiad bythgofiadwy! Diolch yn fawr i’r Urdd am y cyfle!