Ymweliad Sian Elin â’r Senedd Ewropeaidd

gan Sian Elin
Sian Elin yn Senedd Ewrop
Sian Elin yn Senedd Ewrop

Roedd Sian Elin, Pencarreg yn rhan o’r tîm siarad cyhoeddus buddugol yn Eisteddfod yr Urdd eleni a derbyniodd dlws y siaradwr gorau.  Fel rhan o’i gwobr cafodd fynd i ymweld â Senedd Ewrop ym Mrwsel.  Dyma hi yn rhannu’r profiad â darllenwyr Clonc360.

Helo,

Dim ond neges fach i ddweud am fy nhaith i Frwsel i ymweld â’r senedd Ewropeaidd! Roedd yn gyfle ffantastig!

Sian Elin efo Holly, Ruth o'r Urdd a Tom Jones
Sian Elin efo Holly, Ruth o’r Urdd a Tom Jones

 

Aeth Holly a finnau ar y trên o Aberystwyth am 8.30 ar fore Mawrth, 7fed o Orffenaf 2015! Hedfanom o Birmingham International am 14.10, ac yna cyrraedd Brwsel am 16.30.

Nos fawrth cawsom gyfle i ymweld â chanol Brwsel a swper ger y Grand Place lle gwnaeth Nia Lewis, merch o Aberteifi sy’n swyddog Llywodraeth Cymru, ymuno â ni. Cawsom llawer o hwyl yn trafod ei gwaith.

Efo Nia Lewis, Pennaeth Economi yn y senedd Ewrop ar ran Cymru
Efo Nia Lewis, Pennaeth Economi yn y senedd Ewrop ar ran Cymru

Cawsom gyfle i ymweld â Swyddfa Llywodraeth Cymru am 9am ac i gwrdd â rhai o’r Swyddogion. Yna nôl i swyddfa Tom Jones i eistedd mewn ar gyfarfod o’r Social Economy Group. Roedd hyn yn effeithiol iawn gan eu bod yn rhoi tipyn o hanes sefyllfa economi’r wlad ac i ddeall fod nifer o wledydd yn yr un sefyllfa â ni. Aethom yna i’r Senedd Ewropeaidd i gwrdd a’r Ymchwilydd Derek Vaughan MEP. (Roedd yr Aelodau bant yn Strasbourg yn anffodus.)

Roedd yn brofiad bythgofiadwy! Diolch yn fawr i’r Urdd am y cyfle!