Anfodlonrwydd ynglŷn â chyflwyno band llydan ffeibr cyflym Llanfair Clydogau

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
www.superfast-cymru.com
www.superfast-cymru.com

Mae trigolion Llanfair Clydogau yn anfodlon ynglŷn â phryd fydd gwasanaeth band llydan ffeibr cyflym ar gael yn yr ardal.  Mae aros tan Haf 2017 yn amser rhy hir i ddisgwyl medd ymgyrchwyr, ac oherwydd hynny, trefnir cyfarfod cyhoeddus yn y pentref i symud pethau ymlaen.

Credwyd yn wreiddiol y byddai’r gwasanaeth ar gael yn fuan wedi i’r gwifrau gael eu gosod.  Ond yn ôl adroddiad diweddar, ni fydd y gwasanaeth ar gael mewn ardaloedd gwledig oherwydd na fydd digon o alw amdano.  Ofnir hefyd y bydd yn costio llawer mwy i unigolion a chwmnïoedd mewn pentrefi bach fel Llanfair Clydogau.  Nid yw hyn yn cydfynd ag addewid gwreiddiol y llywodraeth.

Yn ôl gwefan Superfast Cymru “Nid mater o gael profiad gwell ar y rhyngrwyd neu wneud un peth yn gyflymach yw cryfder band llydan uwchgyflym.  Mae’n galluogi pawb i fwynhau’r rhyngrwyd, ar yr un pryd.”  Mae’r manteision yn fawr felly, yn enwedig o ystyried fod y cyswllt presennol mor anwadal i lawer o bobl.  Pam felly nad yw’n bosib i bawb elwa ohono?

Ar wefan Superfast Cymru, dywedir “Mae adeiladu rhwydwaith band llydan ffeibr newydd ar draws gwlad gyfan yn dasg enfawr. Byddai’n wych petai modd troi swîts mewn cyfnewidfa er mwyn rhoi gwasanaeth cyflymach i bawb ar yr un pryd. Ond, mae amryw ffyrdd o ddarparu band llydan cyflymach a nifer o gamau i’w dilyn ym mhob ardal cyn bod cartrefi a busnesau’n gallu archebu band llydan ffeibr.”

“Mae adeiladu’r rhwydwaith yn debyg i sut bydd pry cop yn creu gweoedd. Mae cyfnewidfa wasanaeth yng nghanol pob gwe sy’n bwydo cyfnewidfeydd lleol, sy’n cysylltu â chabinetau lleol ac yn eu tro’n bwydo cannoedd o gartrefi a busnesau.  Yng Nghymru mae dros 440 cyfnewidfa ffôn, sy’n golygu bod rhaid adeiladu dros 440 gwe pry cop ar draws y wlad.”

Ond pam fod y broses yn arafach mewn rhai ardaloedd na’i gilydd?  Sut mae’n bosib cyfiawnhau costau uwch i rai hefyd yn fwy nag eraill?

Mae un o breswylwyr Llanfair Clydogau Alan Leech yn trefnu cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Llanfair Clydogau ar yr 28ain Mehefin.  Gwahaoddwyd Martin Jones, Rheolwr Rhaglen BT Cymru i’r cyfarfod i ateb cwestiynau.

Oes problemau tebyg mewn ardaloedd eraill?  Ydych chi’n anfodlon gyda’ch darpariaeth band llydan ffeibr cyflym?  Diolch i drigolion Llanfair Clydogau am wthio’r agenda.  Gobeithio y gellir dod o hyd i atebion ac y darperir gwasanaeth teilwng i bawb yn yr ardal hon.

Neuadd Llanfair Clydogau, 28ain Mehefin am 7 o’r gloch.