Carnifal Blynyddol Llanybydder 2016

gan Ffion Williams

Ar brynhawn Sadwrn 25ain o Fehefin cynhaliwyd Carnifal blynyddol Pentref Llanybydder yng nghae’r rygbi. Y frenhines eleni oedd Hana Jones, y morwynion oedd Lily Smith a Kiah Brown, brenhines y tylwyth teg oedd Amy Rees a’r tywysog oedd Mason Brown. Roedd pawb yn edrych yn brydferth iawn a chafwyd diwrnod hyfryd. Llywydd y dydd oedd Miss Cherry Leishman a chafodd diwrnod lwylus tu hwnt yn beirniadu y cystadlaethau a chael amser i chael sgwrs gyda’i ffrindiau yn Lanybydder. Braf oedd cwrdd a Miss Leishman ar ôl iddi symud o Lanybydder tua 30 mlynned yn ôl. Cafwyd 5 fflôt arbennig yn cystadlu eleni o dan thema ‘Hollywood’ lle aeth y wobr cyntaf i ‘Grease’, ail wobr i  ‘Hollywood Oscars’ a ‘Snow White’ yn drydydd. carnival float 1 image image Enillwyr y carnifal oedd: O dan 2 oed – 1af Hari Jac, 2il Elis Parry, 3ydd Sophie Benson a Cadi Ann Cope 3-5 oed – 1af Owain Morris, 2il Soffia Evenden, 3ydd Dyfan Davies a Beca Davies 6-10 oed – 1af Dion Morris, 2il Jessica Thomas, 3ydd Harri Thomas 11-15oed – 1af Mili Bonning, 2il Nia Davies, 3ydd Elain Williams 16+ oed – 1af Katy Baker, 2il Nia Jones, 3ydd Gary Jones Par Gorau – 1af Titanic – Chloe a Jamie Jones, 2il Minnie a Mickey Mouse – Siona Evans a Cadi Ann, 3ydd Leonardio with his oscar – Logan a Carter Jones Cerbyd gorau – 1af Minnie Mouse – Cadi Ann, 2il Black Pearl – Dion Morries, 3ydd Elvis arrives in Llanybydder – Elis Parry Enillwyr y carnifal oedd Dion Morris gyda’i Black Pearl – cafwyd cwpan a rhoddir gan Eurwyn a Irene Davies. Llongyfarchiadau i bawb am eu hymdrech.   adults image Roedd hi’n ddiwrnod llwyddiannus eleni eto ac hoffai’r pwyllgor ddiolch i pawb a gyfrannodd at lwyddiant y dydd mewn unrhyw ffordd bosib, i’r noddwyr ac i’r rhai gyfrannodd wobr at y raffl mawr.