Cered yn cydnabod Cymreictod Siopau Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Undeb Amaethwyr Cymru yn Llanbed
Undeb Amaethwyr Cymru yn Llanbed

Bu staff Cered, Menter Iaith Ceredigion, yn ymgyrchu yn ardal Llambed i ddathlu diwrnod arbennig Shwmae Sumae eleni.

Mae’r diwrnod yn cael ei drefnu gan Fudiad Dathlu’r Gymraeg a’r nod yw bod pobl yn dechrau sgyrsiau yn Gymraeg a gwneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus gan ddangos bod yr iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu medrused.

Delwedd Newydd
Delwedd Newydd

Ar ôl sicrhau ymrwymiad gan dros hanner cant o fusnesau, grwpiau a mudiadau i Siarter Iaith Ceredigion yn ardal Llambed yn ystod y mis diwethaf, roedd diwrnod Shwmae Sumae yn gyfle i staff Cered ailymweld â’r busnesau hynny. Datblygwyd Siarter Iaith Ceredigion gan weithgor Dyfodol Dwyieithog ar ran Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog sy’n cael eu darparu ar draws Ceredigion ac mae’r prosiect yn cael ei reoli gan Cered.

Roedd hi’n gyfle i staff Cered gyflwyno tystysgrifau’r Siarter a bathodynnau iaith ar waith, ynghyd ag annog busnesau’r dref i gychwyn sgwrs gyda ‘Shwmae?’

Dywedodd Mared Rand Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Ceredigion Undeb Amaethwyr Cymru,

Teiars Huw Lewis
Teiars Huw Lewis

“Rydym fel Undeb Amaethwyr Cymru yn falch iawn o dderbyn tystysgrif Aur ar gyfer y swyddfa yng Ngheredigion. Mae’n holl bwysig darparu gwasanaeth dwyieithog a hyrwyddo’r iaith Gymraeg i’m cwsmeriaid.  Mae’r dystysgrif wedi cael lleoliad da a gweladwy yn y dderbynfa.”

Ers lansio’r Siarter, mae dros 330 o fusnesau a sefydliadau wedi ymrwymo ac wedi derbyn efydd, arian neu aur am wasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Mae’r Siarter Iaith Ceredigion yn agored i bob mudiad, sefydliad, clwb neu fusnes gwasanaeth yn sir Ceredigion.

“Yr hyn sy’n gyffrous am y Siarter yw ei fod yn rhoi cyfle i’r busnes neu sefydliad i ystyried ei wasanaeth Cymraeg a dwyieithog ac os oes unrhyw beth ychwanegol y gellid ei newid i wasanaethu trigolion y sir.” Meddai Lynsey Thomas, Rheolwr Cered , “Mae bob amser yn her o fewn marchnad gystadleuol, ond mae’r iaith Gymraeg yn arf marchnata gwerthfawr i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru sy’n gallu rhoi boddhad ac yn werth chweil mewn cymaint o ffyrdd.”

Meddai Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae’r ymateb wedi bod yn wych yn Llambed gyda nifer o’r busnesau a’u cwsmeriaid yn dangos cefnogaeth i’r Gymraeg. Mae’r peth mwyaf syml, fel cyfarch yn y Gymraeg, yn rhywbeth y gall pawb yn y gymuned fod yn rhan ohoni – siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a siaradwyr di-gymraeg.”