CFfI Cwmann yn Rali Sir Gâr 2016

gan Aled Bowen
Ar ôl oriau ac oriau o baratoi cyrhaeddodd diwrnod Rali Sir Gâr 2016 a gynhaliwyd ar safle’r sioe Nant-y-ci ar y 14eg o Fai. Eleni roedd y clwb yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau gwahanol megis arddangosfa ffederasiwn, dawnsio a threialon cŵn defaid. Roedd llawer o’r aelodau yn cymryd rhan yn y rali am y tro cyntaf ac mae’n wir i ddweud eu bod nhw i gyd wedi mwynhau’r profiad. Ar ddiwedd y dydd daeth Iestyn a Rhian yn ail yn y ‘generation game’ wrth greu stolion bach allan o begiau. Hefydd cipiodd Manon, Sara a Sally y drydedd wobr yn y sioe fasiwn drwy adnewyddu ffrog briodas a morwyn briodas.
Heb os, uchafbwynt y dydd oedd gweld Carys Thomas ein hysgrifenyddes ac is-gadeirydd gweithgar ar y llwyfan yn ystod y seremoni gwobrwyo fel dirprwy llysgenhades y Sir. Mae’r clwb yn falch iawn ohoni a phob lwc iddi am y flwyddyn sydd i ddod. Diolch i arweinyddion, rhieni, ffrindiau a hyfforddwyr am yr holl waith wnaethant i baratoi’r aelodau i gyd ar gyfer y diwrnod.
gosod blodau
Gosod Blodau – Sally
Arddangosfa
Arddangosfa – Iestyn, Gethin, Rhian, Carys, Gwawr a Manon
cinio dathlu
5 eitem ar gyfer cinio dathlu – Gwawr, Manon a Carys
dawnsio
Dawnsio – Lowri, Annest, Elan, Charlotte, Mared, Beca a Gwenann
generation game
Generation Game 2il – Iestyn a Rhian
 ffasiwn
Ffasiwn 3ydd – Sally, Manon a Sara
llysgenhadon
Llysgenhadon y Sir