Cneifio Llambed 2016

gan Ffion Jenkins

IMG_6706adjRoedd Cneifio Llambed yn dathlu ugain mlynedd eleni. mae’r gystadleuaeth wedi mynd o nerth i nerth, ac wedi datblygu’n rhyfeddol.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar y 16eg o Orffennaf ar Fferm Capeli, Cribyn, drwy garedigrwydd y brodyr Williams.

IMG_6693adj crDechreuwyd ar y cystadlu am 8yb, gyda rhagbrofion y dosbarth Iau a’r dosbarth Canol, yna cafwyd blas ar rowndiau gyn-derfynol y ddau ddosbarth hyn. Wedyn cafwyd rhagborfion i’r Cneifio Gwellau, yna’r rhagbrofion ar gyfer y ddau ddosbarth olaf sef y dosbarth Uwch a’r dosbarth Agored, a rowndiau cyn-derfynol ar gyfer y ddau ddosbarth.

IMG_6692clRoedd hi nawr yn amser ar gyfer y Prawf Rhyngwladol rhwng Cymru a Ffrainc, ffeinal y dosbarth Iau a Canol, cyn cael Prawf Rhyngwladol arall rhwng Cymru a Seland Newydd – dyma yw uchafbwynt y diwrnod i rai. Ac yna gorffen y diwrnod gyda’r ddau ffeinal mawr i’r dosbarth Uwch ac Agored – uchafbwynt y diwrnod i eraill.

Roedd dros £2,700 o wobrau ariannol ac amryw dlysau i’w hennill ar ôl yr holl cystadlu, dyma oedd y canlyniadau:

Dosbarth Iau:

1af- Sam Powell

2il- Aled Evans

3ydd- Ieuan Morris

4ydd-Llion Harries

5ed- Gethin Thomas

6ed- Maredudd Pyrs

Dosbarth Canol:

1af- Phil Grove

2il- Josh Page

3ydd- Steffan Jenkins

4ydd- Johnny Rees

5ed- Lorena Dumon

6ed- Eleonore Resneau

Dosbarth Uwch:

1af- Lloyd Rees

2il- Loic Joberthie

3ydd- Nick Greaves

4ydd- Elgan Jones

5ed- Dylan Jones

6ed- Ilan Rhys Jones

Dosbarth Agored:

1af- Johnny Kirkpatrick

2il- Mathew Evans

3ydd- Gwion Evans

4ydd- Gareth Daniel

5ed- Richard Jones

6ed- Ian Jones

Cneifio Gwellau:

1af- Elfed Jackson

2il- Rheinallt Hughes

3ydd- Gareth Owen

4ydd- George Mudge

5ed- Andrew Wear

6ed- Loic Jauberthie

Prawf Cymru a Ffrainc:

1af- Cymru

2il- Ffrainc

Prawf Cymru a Seland Newydd:

1af- Cymru

2il- Seland Newydd

Os ydych am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth neu am weld fwy o luniau edrychwch ar dudalen Facebook y Cneifio sef:

‘Cneifio Llambed / Lampeter Shears’