Corau lleol yn rhan o gynhyrchiad newydd sioe eiconig

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies
Poster Teilwng yw'r Oen
Poster Teilwng yw’r Oen

Bydd Theatr Felinfach yn llwyfannu cynhyrchiad uchelgeisiol o’r sioe eiconig Teilwng yw’r Oen yn Ionawr 2017, diolch i nifer o geisiadau grant llwyddiannus a ddyfarnwyd yn ddiweddar, a fydd yn cyfuno perfformwyr a thîm cynhyrchu cymunedol a phroffesiynol.

Sioe yw hon sydd wedi ei seilio ar Y Meseia, Handel, un o’r gweithiau mwyaf adnabyddus yn y byd ac mae Teilwng yw’r Oen yn cyflwyno’r alawon hudolus a chofiadwy mewn gwisg gyfoes. Bydd yn cael ei pherfformio yn Theatr Felinfach ar 12, 13 ac 14 Ionawr 2017.

Cyfarwyddwr Cerdd y sioe fydd Rhys Taylor, cerddor llawrydd proffesiynol yn enedigol o Aberystwyth sydd wedi creu trefniant newydd o waith gwreiddiol Tom Parker. Bydd dau unawdydd proffesiynol, adnabyddus  yn rhan o’r sioe, sef Deiniol Wyn Rees, sy’n wreiddiol o New Inn, Sir Gaerfyrddin ac sydd â chysylltiadau cryf â Theatr Felinfach, ond sydd bellach yn byw yn Llundain a Non Wyn Williams, actores ac aelod o’r grŵp pop Eden.

Y tri chôr yn ymarfer yn Ysgol Bro Pedr.
Y tri chôr yn ymarfer yn Ysgol Bro Pedr.

Bydd hefyd corws unedig o tua 70 o leisiau wedi ei greu o dri chôr cymunedol  sy’n dod o amrywiol ardaloedd yn y sir, sef Dyffryn Aeron – cartref côr cymysg pedwar llais Cardi-Gân, Llanbedr Pont Steffan sy’n gartref i gôr merched Corisma a Phonterwyd a Phontarfynach sy’n gartref i gôr y bois, sef Meibion y Mynydd. Darperir y seilwaith offerynnol gan Wasanaeth Cerdd Ceredigion a rhai offerynwyr proffesiynol.

Deiniol Wyn Rees
Deiniol Wyn Rees

Galluogwyd Theatr Felinfach i lwyfannu’r sioe arbennig hon o ganlyniad i’w llwyddiant mewn nifer o geisiadau cyllid grant a ddyfarnwyd iddynt yn ddiweddar.

Bu cais y Theatr i Gyngor Celfyddydau Cymru am £5,000 yn llwyddiannus, a dyfarnwyd £4,702 i Gyfeillion Theatr Felinfach gan Gronfa’r Loteri Fawr.

Hefyd, dyfarnwyd £500 i Gyfeillion Theatr Felinfach gan Grant Cymunedol Ceredigion ac maent wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn rhoddion hael tuag at gost y prosiect gan nifer o Gynghorau Cymuned a Thref, gan gynnwys, Blaenrheidol, Ciliau Aeron, Henfynyw, Llanarth, Llanfihangel Ystrad, Llangoedmor, Llambed, Llangrannog, Llanwenog ac Ystrad Meurig. Mae Theatr Felinfach hefyd wedi derbyn rhodd o £250 gan gwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.

Non Williams
Non Williams

Dywedodd Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felinfach: “Bydd y prosiect yn sicr o ennyn brwdfrydedd a diddordeb, wrth i dalentau lleol gael y cyfle i weithio gyda chriw proffesiynol mewn cynhyrchiad unigryw o’r sioe eiconig hon.”

Cynhelir tri pherfformiad o Teilwng yw’r Oen ar 12, 13 a 14 Ionawr 2017, a mae tocynnau ar gael nawr. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ewch i wefan Theatr Felinfach.

Mae nifer o ardal CLONC yn cymryd rhan yn y perfformiad yma – felly, dewch i’w cefnogi.