Cynhaliwyd Gymanfa Ganu 124ain Undeb Gerddorol Undodiaid Ceredigion yng Nghapel Ciliau Aeron ar ddydd Sul, Ebrill 24ain. Braf oedd gweld y capel yn gyfforddus lawn yn ystod sesiwn y prynhawn gyda’r plant a’r ieuenctid.
Eleni, Catrin Evans o Dalgarreg oedd yn arwain y canu ac fe fwynhaodd y profiad yn fawr iawn. Roedd yn agos i 30 o blant yn y gynulleidfa yn morio canu. Roedd Catrin wedi dod â Arch Noa ganddi gyda nifer o offerynnau o’r Affrig i’r plant i’w chwarae.
Roedd yna wledd o luniaeth wedi ei baratoi lawr yn neuadd y pentref rhwng y ddau gyfarfod. Diolch i swyddogion y neuadd am gael benthyg y cyfleusterau gogyfer â’r te.
Yn yr hwyr tro’r oedolion oedd hi a chafwyd canu da o dan ei arweiniad a’r 4 llais i’w glywed – sbesial iawn. Yn ôl yr arfer J. Eirian Jones, Cwmann oedd yn cyfeilio.
Llywydd y prynhawn oedd Catrin Ahmun, Capel Rhydygwin a Janet Evans, Ciliau Aeron oedd yn llywydd yr hwyr. Cafwyd areithiau arbennig gan y ddwy.
Roedd yna gyffro mawr eleni gan bod yna bws wedi ei drefnu i gario pobl o’r neuadd i fyny i’r capel ac yn ôl. Diolch i Granville Issac o Gwmni Bysiau G&M, Llambed am wneud y bws wennol. Roedd hyn wedi hwyluso popeth i bawb, boed yn ifanc neu mewn oedran.
Diolch i Gapel Ciliau Aeron am eu cydweithio yn ystod y paratoadau.