Cyngerdd Cardi-Gân a Chôr Meibion Caerfyrddin

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Cafwyd noson arbennig yn Neuadd yr Hafod, Gorsgoch nos Wener ddiwethaf pan gynhaliwyd Cyngerdd gan Gôr Cardi-Gân a Chôr Meibion Caerfyrddin. Sion Page yw arweinydd Cardi-Gân erbyn hyn, gyda Wyn Maskell yn arwain y meibion o Gaerfyrddin.

Arwel Davies, un o aelodau Cardi-Gân, fu wrthi’n arwain y noson. Cafwyd canu godidog gan y ddau gôr ac fe ymunodd y ddau i ganu Calon Lân ar ddiwedd y noson.

Gweinwyd caws a gwin ac roedd hynny yn ychwanegu tipyn at y cymdeithasu.

Roedd elw’r noson yn mynd i ‘Beiciau Gwaed Cymru’ a chafwyd hanes y beiciau gwaed gan un o’r gwirfoddolwyr, Graham Jones, un o aelodau Cardi-Gân. Roedd yr hanes yn ddiddorol iawn ac maent yn cyflawni gwaith arbennig yn mynd â gwaed, hanes y claf, meddyginiaeth ac eitemau pwysig iawn o un ysbyty i’r llall.

Hamperi o fwyd oedd y 4 gwobr raffl ac fe’u henillwyd gan rai lwcus iawn yn y gynulleidfa.

Cardi-Gân
Cardi-Gân
Pedwarawd - Catrin, Rhian, Eleri a Rhian
Pedwarawd – Catrin, Rhian, Eleri a Rhian
Côr Meibion Caerfyrddin
Côr Meibion Caerfyrddin
Y gynulleidfa
Y gynulleidfa

Diolchwyd i bawb am noson lwyddiannus iawn gan Pît Dafis, Cadeirydd Côr Cardi-Gân ac fe wnaethpwyd elw go lew i’r Beiciau Gwaed; trosgwlyddir yr arian eto maes o law.