Ar y 9fed o Fedi cynhaliwyd noswaith gyntaf y clwb am y flwyddyn i groesawu aelodau newydd gyda gemau a barbeciw ar gae’r pentref. Er gwaethaf y tywydd anffafriol, braf oedd gweld nifer o wynebau newydd a rhai mwy cyfarwydd yno. Diolch i’r bechgyn am drefnu’r gemau ac i Delyth am y lluniaeth gafwyd ar diwedd y noson.
Ar y 23ain o’r mis cafwyd noson o ddysgu barnu stoc ar fferm Felindre drwy caredigrwydd Tomos, Elen a’r teulu. Roedd yn gyfle da i aelodau llai cyfarwydd ag anifeiliaid fferm i wella eu dealltwriaeth a gofyn cwestiynau i’r aelodau mwy profiadol am sut i feirniadu cylch o ddefaid magu a wyn tew. Gobeithio fydd hyn yn arwain at ragor o aelodau yn troi eu llaw at farnu stoc yn y Rali a’r diwrnod gwaith maes y flwyddyn nesaf.
Ar y 13eg o Hydref cafwyd Cwrdd Diolchgarwch blynyddol y clwb ar y cyd â Chapel Caersalem, Parc-y-Rhos. Cafodd y cwrdd ei arwain gan y Parchedig Jill Tomos a’r bregeth ei thraddodi gan y Parch Cen Llwyd. Braf oedd gweld nifer o aelodau’r clwb yn cymryd rhan yn gwneud darlleniadau a chyhoeddi’r emynau. Hoffai’r clwb ddiolch i aelodau’r capel am rannu y noswaith unwaith eto.
Y nosweth ganlynol gwelwyd yr aelodau yn cystadlu yn noswaith gyntaf Eisteddfod y sir yn neuadd San Pedr, Caerfyrddin. Cafwyd tipyn o hwyl wrth i’r clwb gymryd rhan yn y sgets, ac Elan a Beca yn y gystadleuaeth canu emyn. Yr wythnos ganlynol, nos Wener yr 21ain a dydd Sadwrn y 22ain, gwelwyd yr aelodau yn cael tipyn o lwyddiant wrth gystadlu. Cipiodd Elan a Beca yr ail wobr yn y ddeuawd o dan 26ain, a chafodd Elan y drydydd wobr yn y llefaru 16 neu iau. Bu Sian Elin yn llwyddiannus hefyd yn cipio’r drydedd wobr yn y llefaru 21 neu iau. Cafodd y parti llefaru a’r grwp dawnsio disco lwyddiant pellach, gyda’r ddau yn cael y drydedd wobr. Fuodd Elan a Beca yn brysur eto yn cystadlu yn yr unawd 16 ac iau, gyda Elan hefyd yn cystadlu yn yr unawd alaw werin ac unawd offerynnol. Cafwyd cystadlu brwd hefyd yn yr parti canu ac meimio. Rhaid llongyfarch yr holl aelodau a gymerodd rhan, ac hoffai’r aelodau ddiolch o galon i bawb a fu yn helpu ac hyfforddu ar gyfer yr holl gystadleuthau. Heb eu caredigrwydd ac amser ni fyddai yn bosib i’r aelodau fwynhau’r profiad o gystadlu.
Edrychwn ymlaen at fis Tachwedd prysur, gyda chwis y pwyllgorau lleol i ddechrau’r mis ar y 4ydd, a Bingo agored ar y 25ain.