Diwrnod Hwyl Llanllwni

Annwen Evans
gan Annwen Evans

Ar brynhawn Sadwrn 9fed Orffennaf cynhaliwyd diwrnod hwyl Llanllwni a drefnwyd ar y cyd rhwng yr Ysgol, Cylch Meithrin a’r Clwb Ffermwyr Ifanc. Braf oedd cael trefnu gweithgaredd gymunedol a chydweithio gyda gwahanol bobol o’r mudiadau, ac ar ddiwedd y dydd gwnaed elw o £1429.81. Bydd y swm yn cael ei rannu rhwng y 3 sefydliad. 

Oherwydd y tywydd gwlyb drwy caredigrwydd Mr a Mrs Eric Jones cafodd y diwrnod hwylei gynnal yn sied ar fferm Tirlan.Llywydd y dydd oedd Mr a Mrs Artie Evans, Llanybydder a chafwyd amser wrth eu boddau yn beirniadu y gystadleuaeth gwisg fansi. Dyma rhai lluniau o’r gystadleuaeth:

 

  

 

   

Cafwyd cwpan am y plentyn / person â’r gwisg ffansi gorau o fewn pob categori, ac yn dod i’r brig oeddOsian Powell. Diolch yn fawr i Mr a Mrs Kevin Jones am noddi’r cwpan hwn. Dyma lun o Osian:

 

Roedd y diwrnod yn un llwyddiannus a hoffai pwyllgorCymdeithas Rhieni ac Athrawon yr Ysgol, Pwyllgor y Cylch Meithrina’r Clwb Ffermwyr Ifanc ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at lwyddiant y dydd mewn unrhyw ffordd.. A diolch i’r Cyngor Bro am noddi gwobrau’r gwisg fansi, mabolgampau a It’s a Knock Out.