E S T R O N S

gan lena daniel

Rhaid oedd tawelu Geraint Lloyd o gwmpas 10 o’r gloch neithiwr oherwydd i Rhodri ffonio a dweud fod E S T R O N S i’w clywed ar Radio 1. Mae gan y DJ Huw Stephens raglen amser hyn o’r nos  a chwarae teg iddo bu’n dilyn hynt a helynt y grŵp ers y cychwyn. O ganlyniad i’w ddiddordeb mi wahoddwyd y band i recordio sessiwn o’u caneuon yn Stiwdio Maida Vale lan yn Llundain. ‘Roedd yn ddiddorol clywed Rhodri yn son mai Elton John – o bawb – oedd yr artist  a wnaeth recordio yn y stiwdio yn gynharach yn y dydd!!!

Mae’r band wedi cael dechreuad arbennig i’r flwyddyn trwy fod ar Radio Wales, Radio X yn ogystal â bod yn dipyn o ffefrynnau gan Annie Mac- DJ arall ar Radio 1. Yn wir mi wnaeth hi enwebu E S T R O N S yn un o fandiau mwyaf addawol eleni ac o ganlyniad ma’r grŵp wedi cael ei wahodd i gynrhychioli Radio 1 mewn Gŵyl bandiau newydd allan yn Austen Texas fis nesaf!

Ar nodyn trist roedd E S T R O N S yn bwriadu teithio allan i’r ŵyl gydag aelodau Band Viola Beach a fu farw mewn damwain allan yn Sweden dros y penwythnos. ‘Roeddent hefyd i fod rhannu llwyfan gyda’r band  mewn cyngerdd yr wythnos nesaf. Dadl Rhodri yw bod yn rhaid mynd ati i ddilyn eich breuddwydion gan nad oes neb yn gwybod beth sy’n dod nesaf – a gwir oedd hyn yn hanes taith Band Viola Beach.

Ma’r llwyddiant pellach yma wedi dod i E S T R O N S o ganlyniad yn rhannol i ‘r band gyflogi rheolwr newydd – ef yw rheolwr y band “enwog” Massive Attack sy’n boblogaidd iawn yn y sîn ddawns drwy Ewrop medden “nhw”!!

Mae Rhodri yn eithaf realistig am ba mor fregus yw’r byd cerddoriaeth, ond ar hyn o bryd mae holl aelodau ‘r band yn fwy na hapus gyda’r cyfeiriad mae pethau’n symud. Ei fam yw’r broblem … yn enwedig pan mae ei mab cyntafenedig yn sôn am orffen ei waith a falle troi yn gerddor proffesiynol os bydd llwyddiant pellach … Os dyweddodd Dilys Price yn fideo Sam Tân, “Mae’n anodd fod yn Fam dda”! Pa gyngor fyddech chi’n rhoi tybed, ddarllenwyr Clonc annwyl?!