“Mi oeddwn i yno yn y cyfarfod cyntaf un yw chwedl Eifion” meddai Marian Morgan, Drefach sydd wedi ysgrifennu colofn ‘Cymeriadau Bro’ y mis hwn.
Yn gyn gadeirydd Papur Bro Clonc ac yn un sydd dal i gyfrannu cymaint tuag at redeg y papur, Eifion Davies, Afallon yw testun ‘Cymeriadau Bro’ y tro hwn.
Ysgrifenna Marian amdano “Dyn y pethe a’i wreiddiau’n ddwfn mewn hanes, diwylliant a bywyd ei fro.”
Yn wreiddiol o ardal Llangybi ac yn gyn athro a dirprwy brifathro yn Ysgol y Dolau Llanybydder, mae gan Eifion hanes diddorol iawn. Faint sy’n ymwybodol y bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn rhingyll wrth hyfforddi a dysgu milwyr yn yr Almaen ac yn athro Cymraeg yn Ysgol y Bechgyn, Ystrad Mynach?
Mae ei gyfraniad i’w fro a’i gymuned yn Nrefach Llanybydder yn enfawr ac mae’n ddyn teulu annwyl. Darllenwch ymhellach amdano yn rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc.