Cynhaliwyd y 26ain Ffair Ram ar gae pentref Cwmann ar y 10fed Medi. Cafwyd diwrnod teg o ran tywydd a chefnogaeth dda yn ystod y dydd.
Cafwyd gweithgareddau llwyddiannus yn ystod y dydd o dan lywyddiaeth Mrs Enid Davies, Bryneiddig gynt. Cafwyd araith bwrpasol ganddi hi a’i brawd Irfon Williams.
Cafwyd cystadlu brwd ym mhob cystadleuaeth yn yr adrannau isod ac arddangosfa arbennig o dda o hen beiriannau. Atyniad newydd eleni oedd y Daith Tractorau 5 milltir a gynhaliwyd yn ystod y bore.
Gwerthwyd y cynnyrch ar ddiwedd y dydd gan Ron Thomas a chodwyd swm sylweddol gyda chyfran o’r elw yn mynd tuag at Sefydliad Aren Cymru.
Dyma enillwyr y Gwobrau:
Adran Fferm – Gareth Russell; Llysiau a Ffrwythau – Ann Davies; Blodau – Muriel McMillan; Coginio – Sioned Russell; Cyffeithiau / Gwinoedd – Helen Roberts;
Ysgol Feithrin – Esther Llwyd; Dosbarth Derbyn – Cai Davies; Blwyddyn 1 a 2 – Ellie Gregson; Blwyddyn 3 a 4 – Casi Gregson; Blwyddyn 5 a 6 – Mared Jones ac Elen Jones; Ysgol Uwchradd – Morgan Lewis;
Arlunwaith a Ffotos – Meinir Evans; Crefftau Cefn Gwlad – Gwyn Williams; Gwaith Llaw – Eirlys Jones;
Adran y Defaid – Tomos Jones, Felindre;
Cwpan Sialens Felindre Uchaf – Ann Davies; Cwpan Sialens Felindre Isaf – Aled Roberts; Cwpan Sialens Wyn a Mary – Dewi, Blaenbinderndyn; Cwpan Sialens Eric Harries – Aled Roberts; Cwpan Sialens Teulu Hendai – Dewi, Blaenbinderdyn; Cwpan Sialens Dalgety – Aled Roberts; Cwpan Sialens Bronwydd – Helen Roberts; Cwpan Sialens Dilys Godfrey – Eirlys Jones.
Hoffai’r swyddogion ddiolch i bawb a fu’n helpu ac am bob cefnogaeth.
Gellir gweld mwy o luniau ar wefan Ffair Ram.