Fy nhaith i America am 8 wythnos

gan sara evans

Fy nhaith i America am 8 wythnos

imageDdechreuodd y daith drwy roi ffurflen gais mewn at y cwmni ‘Camp America’ nôl ym mis Medi. Roedd hyn yn broses hir gan oedd rhaid i mi wnenud fy nghais a chynllunio fy mroffil i Camp America, wedyn oedd rhaid i mi fynd am gyfweliad yn Abertawe.

Roedd rhaid i mi aros cwpwl o wythnosau cyn fy mod yn cael gwybod os yr oeddem wedi llwyddo’r cyfweliad neu beidio – roedd hyn yn amser nerfus iawn. Ar ôl i mi ddarganfod fy mod wedi llwyddo’r cyfweliad, roedd rhaid i mi roi cais mewn er mwyn cael derbyn VISA er mwyn i mi gael teithio i America. Sai di bod mor nerfus yn fy mywyd, heddlu a driliau tu allan yn edrych yn hollol ‘serious’.

Ar ôl derbyn VISA a phasio’r cyfweliad, roedd yr amser yn mynd yn araf iawn yn aros am e-bost o camp oedd yn rhoi cyfle i mi i fynd i weithio iddynt allan yn America. Ar ôl i amser fynd heibio, mi dderbyniais yr e-bost pwysig oddi wrth camp ‘girl scouts of western new york’ yn Efrog Newydd, le roddent yn gofyn i mi i weithio iddynt dros yr haf. Roedd gwên o un glust i’r llall pan ddarllenais yr ebost hwn. Roedden ni mor hapus!!

Mi ddaeth y ddiwrnod mawr, le roedd hi’n amser i mi i hedfan o Lundain i Efrog Newydd. Fe wnes i gyrraedd y maes awyr yn adnabod neb. Mi gefais arwyddion i edrych allan am bobl a oedd yn gwisgo crysau llwyd yn dweud ‘Camp America.’ Ar ôl cyrraedd y maes awyr yn adnabod neb, o fewn 2 awr, fe wnes ffrindiau, ac o fewn 3 awr, wnes i cwrdd a 5 o ferched a oedd yn yr un camp â fi. Roeddem wedi clicio yn fuan, ac o hynny ymlaen, we ni’n gwybod ei fod yn mynd i fod yn haf perffaith. O fewn awr, roedd hi’n amser i fynd ar yr awyren a hedfan i Efrog Newydd – o fewn 7 awr, mi gyraeddon ni Efrog Newydd.

CAMPAr ôl cyrraedd Efrog Newydd, roedd 8 awr arall o deithio gyda ni ar fws er mwyn ein bod ni’n gallu cyrraedd y camp. Nosweth wnaethon ni cyrraedd y camp, mi wnaethon jwmpo mewn i’r llyn er mwyn ‘coolo’ lawr o’r holl deithio. Roedd hyn yn ddechrau da i’r haf yn America.

Roedd yr wythnos a hanner cyntaf yn camp yn cynnwys glanhau a paratoi y lle yn barod i’r plant i gyrraedd, ‘open house’ le oedd rhieni yn gallu dod i weld y camp cyn i’w plant i ddod. Yn yr wythnos a hanner hyn, un o swyddi’r achwybwyr bywyd oedd adeiladu’r tegan ddwr a oedd yn 17ft dal – roedd hi mor dal a hefyd yn mor drwm. Ar ôl i’r wythnos a hanner hyn i basio heibio, roedd hi’n amser i’r plant i ddod. Ar ddechrau wythnos 1, mi gyrhaeddodd 70 o blant i’r camp, le gafon nhw i’w gwahaniaethu i ddau grwp, lle roedd 12 cwnselydd i bob grwp. Roedd y diwrnod nodweddiadol yn cynnwys achub bywyd a dysgu nofio i mi a hefyd aros da’m grwp i fynd i weithgareddau megis saethyddiaeth, marchogaeth ceffylau, celf a chrefft, nofio a’r tegan dwr.

13709795_1162761213787079_4476113682478522573_nRoedd y diwrnodau yn hedfan heibio gan ein bod ni mor brysur trwy’r dydd. Roedd fy swydd fel achubwr bywyd yn swydd dibenadwy dros ben, ond y swydd gorau allen ni  byth ofyn am dros yr haf. Roedd gael y cyfle i fod yn achubwr bywyd allan yn America ar lyn mwyaf prydferth yn bythgofiadwy. Roedd y golygfeydd yn ffantastic, yn enwedig golygfeydd o’r llyn.

Ar ôl wythnos o weithio ar camp, roedd cyfle gyda ni i fynd adref gyda rhywun oedd yn byw yn agos i’r camp er mwyn ein bod ni yn gallu gweld a cael cyfle i fyw fel ‘American.’ Dros y penwythnosau, mi gefais cyfle i fynd i weld y Niagra Falls, parc thema o’r enw Derian Lake, mynd i bwthyn gwyliau un or merched le roedd llyn 30 erw. Roedd y penwythnos yn y bwthyn yn hollol amazing – wnaethon gwario trwy’r penwythnos yn y llyn a wnes i ddod o’r bwthyn yn edrych fel tomato ar ol dal yr haul. Roedd hi mor neis i gael ei ofyn i fynd adref gyda rhywun am y penwythnos. Ar ol un neu ddau ddiwrnod ar camp, roedden ni yn teimlo fel rhan o’r teulu yn awtomatig.

Gan fy mod i yn byw yn agos i’r ochr gwlad y byd, wnes i feddwl fy mod i yn mynd i fyw yn iawn yn camp, ond na. Un noswaith, mi roedd pedwar o ni yn byw mewn ‘cabent’ gyda 5 llygoden – ych a fi!! Yn un ‘cabent’ roedd 30 o lygod – 2 deulu o lygod. Ac yn bennaf, dydw i ddim yn ffan mawr o lygod, felly wnes i gwotio fy hunan yn fy sach cysgu yn nerfus iawn fod llygoden yn mynd i fod ar bwys fy nghwyneb erbyn y bore. Ar ben llygod, roedd nadroedd dwr yn y llyn, ac roedd y nadroedd hyn yn anferthol. Un o fy casinebion fwyaf yw nadroedd, felly we ni yn nerfus iawn yn aros ar y ‘dock’ tra fy mod yn gwenud fy swydd fel achubwr bywyd.

Ar y ben, hwn yw’r haf mwyaf ‘amazing’ rwy wedi cael. Dwi heb cael profiad mor ffantastig yn fy mywyd. Tra’n gweithio fel achubwr bywyd, rwyf wedi gwneud ffrindiau oes lle rwyf yn mynd i gadw gysylltiad gyda nhw am byth. Dim yn unig roedd fy nhaith i America yn brofiad anghredadwy, ond mae’r daith hyn wedi codi fy hunan – hyder a fy hunan – effeithiolrwydd.

Dydw i ddim yn gallu awgrymu rhwybeth gwell i wneud am brofiad i’ch dyfydol. Falle ei fod yn daith bach yn ddrud, ond roedd yr arian wedi cael ei wario’n dda! Credwch chi fi, os byddwch chi yn rhoi cais mewn i Camp America, wnewch chi byth difaru eich camau. Ewch amdani, a wnewch chi gael haf bythgofiadwy a haf mwyaf ‘amazing’ allwch chi byth gael.

Sara Wyn Evans  ~   2016