Mae Roy George sy’n 46 oed yn dod yn wreiddiol o Lanbed ond wedi byw yn Workington Cumbria ers blynyddoedd. Erbyn heddiw mae ganddo ddiddordeb angerddol dros wneud eitemau i’r cartref o bren fel powlenni a fasau yn ogystal ag eitemau o wydr lliw.
Peiriannydd oedd galwedigaeth Roy ond gan ei fod yn gofalu’n llawn amser am ei wraig Sue 44 sy’n dioddef o barlys ymledol, darganfyddodd ei fod yn gallu troi ei law i gynhyrchu crefftiau hardd.
Afiechyd sy’n effeithio ar nerfau’r ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn yw parlys ymledol (neu sglerosis ymledol), sy’n achosi problemau gyda symudiad y cyhyrau, cydbwysedd, a golwg.
Mae gan Roy weithdy yn y sied a gall barhau i ofalu am Sue yn ogystal â chreu crefftiau i’w gwerthu. Mynycha ambell Ffair Grefftiau yn ardal Cumbria yn ogystal â derbyn llawer o waith comisiwn.
Ymfalchïa Vincent a Gwenda George – ei dad a’i fam sy’n byw yn Nheras Fictoria, Llanbed, yn ei grefft. Gwelir sawl darn o’i waith yn y tŷ.
Un o gymdogion Vincent a Gwenda yw Jean Owen. Dywed Jean “Sneb llawer yn gwbod beth mae Roy yn neud a mae’i waith yn arbennig ac yn haeddu sylw.”
Fel peiriannydd roedd yn gyfarwydd â defnyddio turn metel, ac roedd addasu i ddefnyddio turn pren yn hawdd iddo. Mae’n dod o hyd i bren yn lleol “Pan wi’n clywed llif gadwyn ar waith, wi’n mynd at y gweithwyr yn syth. Ma’n nhw’n ddigon bodlon i fi gal ychydig o bren ar ôl sylweddoli beth wi’n neud ag e” meddai Roy.
Mae’n gobeithio ehangu ar y grefft o weithio ar wydr lliw. Mynychodd Sue ddosbarth nos ar wydr lliw unwaith er mwyn dysgu mwy, a hoffai Roy fynd â hyn ymhellach. “Mae’n rhoi llawer o bleser i fi” ychwanega Roy, “achos rodd rhaid i fi orffen gweithio. Mae’r diddordeb ma yn helpu fi i gadw mewn cysylltiad â phobl.”