Neuadd Tallow Chandler, Llundain oedd y lleoliad ar gyfer Gwobrau Blynyddol diweddar y Sefydliad Cig a Chwmni Anrhydeddus o Gigyddion.
Mynychwyd y digwyddiad mawreddog gan Rob Powell a enillodd Wobr y Prentis Cig a Ddangosodd yr Addewid Rheoli Mwyaf a Mateusz Pluta a dderbyniodd Wobr Myfyriwr Prosesu Cig Gorau.
Yn cadw cwmni i’r enillwyr oedd Richard Jones, Hyfforddwr Bwtsiera a Kay Lewis, Rheolwraig Dysgu a Datblygu Cwmni Dunbia Llanybydder.
Rôl Richard o fewn Dunbia yw hyfforddi a datblygu cigyddion, gan sicrhau safonau cyson a bod cwsmeriaid yn cael eu bodloni gyda chynhyrchion o ansawdd gorau ar bob achlysur.
Ar ôl dychwelyd dywedodd Kay, ‘Mae’n wych gweld gweithwyr o Dunbia yn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i’n busnes. Cred Dunbia’n gryf bod rhaid buddsoddi mewn gweithwyr er mwyn llwyddo.’
Dywedodd Rob, ‘Mae’n gyrhaeddiad personol go iawn i dderbyn y wobr hon; sydd ond wedi bod yn bosibl trwy dderbyn cyfleoedd datblygu gan y tîm yn Llanybydder .’
Llongyfarchiadau i Rob a Mateusz ar eu cyrhaeddiadau. Yn y llun uchod mae’r tîm o Dunbia Llanybydder a fynychodd y Seremoni Wobrwyo yn Llundain.