Gŵyl Haf Merched y Wawr ym Machynlleth

gan lena daniel

Do, mi ddaeth yn amser hynny o’r flwyddyn eto – Gŵyl Merched y Wawr lan ym Machynlleth – rowndiau terfynol chwaraeon y Mudiad, cystadlaeuthau Celf a Chrefft, Seremoni Cadeiro a hefyd cyfle i gystadlu yn y Cyflwyniad Llafar a’r gystadleuaeth Sgetsh ar y llwyfan.

Cyflwyniad Llafar Llanbed
Cyflwyniad Llafar Llanbed

Teitl y cyflwyniad llafar oedd Merched Mentrus a rhaid canmol ein cyfarwyddraig Elin Williams am ei dawn yn ysgrifennu sgript addas iawn i ni wrth glodfori merched a oedd wedi mentro mewn gwahanol feysydd yma yng Nghymru dros y canrifoedd. Enwyd merched fel Buddug, Gwenllian, Betsi Cadwaladr, Frances Hoggan, Zoniah Bowen, Jennie Eirian, Margaret Haig Thomas, Helen Thomas, Tanni Grey Thompson, Lowri Morgan a Cranogwen yn y cyflwyniad. Rhaid cyfadde nad oedd rhai o’r enwau yn gyfarwydd i ni ond braf oedd dod i ddysgu pwysigrwydd y menywod yma yn datblygu rôl merched mewn cymdeithas ar hyd y blynyddoedd (gwaith cartref i chi ddarllenwyr annwyl yw i ymchwilio hanes y merched mentrus yma…) .

Mi wnaeth Elin recordio cryno ddisg i ni gyd cael ymarfer y geiriau adre a dod i ddysgu y cyflwyniad yn weddol gyflym. Aeth yr ymarferion yn hwylus dros ben gyda llawer o chwerthin wrth i ni gwrdd yng nghartref Elin a Dafydd yn y Garn i ymarfer ein perfformiad.

Gorffennwyd y cyflwyniad gyda ni yn sylweddoli ein bod ni hefyd wedi mentro yn ein ffyrdd gwahanol ein hunain i newid cwrs llwybrau ein teuluoedd ni dros y blynyddoedd.

Aeth ein perfformiad yn iawn lan ym Machynlleth – ond nid oedd gwobr i Gangen Llambed o Ferched y Wawr eleni. Llongyfarchiadau mawr i Gylch Aeron am ennill – y tro cyntaf iddynt gystadlu – ac i Gangen Felinfach am ddod yn ail. Gwnaethom fwynhau clywed hanes tair menyw a oedd wedi newid cwrs hanes gan Gylch Aeron – Rosa Parks, Malala a Helen Thomas. Gyda Changen Felinfach fe ddeallom mai dynion yn unig oedd yn dreifio ein trenau a dyna lle oedd merched Dyffryn Aeron ym mentro dysgu sut oedd dreifio trên ac yn mynd o stesion i stesion yn canmol doniau a thalentau menywod dros y blynyddoedd. ‘Roedd yn wir addysg dysgu hanesion yr holl ferched mentrus yma a derbyn ar yn un pryd fod yna le i ni gyfrannu hefyd yn ein bywydau bach ein hunain!

Yn ystod y prynhawn fe ddaeth y cyhoeddiad o’r llwyfan fod un o’n aelodau ni, Gillian Jones, wedi ennill y trydydd wobr am y gadair. ‘Na beth oedd newyddion da – a sioc i Gillian ddeall ei bod wedi ei anrhydeddu.

Sgets Llanbed
Sgets Llanbed

Rhaid oedd perfformio’r sgetsh cyn mynd am adre a rhaid cyfadde ein bod ychydig bach yn ofidus am y perfformiad yma gan fod rhai o’r aelodau (heb enwi neb) â thueddiad anffodus ganddynt o newid y sgript fel o’dd y whant yn codi!! Wir nawr, mi wnaethon ymarfer a cheisio dilyn rhywfath o gynllun yn y Garn am o leiaf hanner awr noswaith cyn yr Ŵyl Haf … ond rhywsut neu gilydd ’roedd rhyw linellau estron yn dod o rywle yn ddirybudd wrth i ni drio cofio pwy oedd yn dweud beth nesaf!!

Ta beth ’roedd dim amdani ond mentro i’r llwyfan – a gan mai “Annibendod” oedd y testun efallai fyddai’r tetl yn dod yn hollol wir hanner ffordd drwy’r perfformiad! Syndod mawr i’r “actorion” Elin, Lena, Ann, Mary ac Eryl – oedd y ffaith ein bod wedi mynd trwyddi heb rhyw lawr o banics – a bod y gynulleidfa wedi ymateb yn arbennig – a hynny yn y llefydd cywir hefyd!

Elin yn derbyn y dystysgrif
Elin yn derbyn y dystysgrif

Sioc o’r raddfa mwyaf oedd clywed mai ni oedd yn fuddugol!!! Mae’n debyg fod y beirniad Mari Owen o gwmni Arad Goch wedi chwerthin yn ddi-stop trwy gydol y perfformiad!! Sôn am falchder – cawd bobi “Coaster” Merched y Wawr a llun gyda Llywydd y Mudiad a chanmoliaeth uchel gyda gwahanol unigolion am eu gwneud i chwerthin mas yn uchel ar ddiwedd y dydd.

Rhyw fyd rhyfedd yw’r byd cystadlu ’ma.

Gyda llaw i’r rhai o chi wnaeth gyfrannu neu brynu atygolion o stondin Merched y Wawr llynedd –  mae £28,000 wedi ei godi tuag at Gronfa Ymwchwil y Galon erbyn hyn! Meddyliwch am y fath swm. ‘Roedd Tegwen Griffiths yn bles iawn gyda’r cyfanswm – ac mae mwy i’w gwerthu yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni eto!

Son am Tegwen – ’roedd pawb yn uchel eu cloch yn ei chanmol am y gwaith trefnus tu hwnt mae yn ei gyflawni gyda’r mudiad. Merch Gwynfil a Dai Griffiths, Cwmann, yw hi wrth gwrs ac ’roedd aelodau Cangen Llambed yn browd iawn ohoni yn gweithio yn ddiwyd iawn yn yr Ŵyl Haf eleni eto.

Nol â ni am Aberaeron i ddathlu dros bryd blasus o fwyd a thrafod os oedden yn ferched digon mentrus i berfformio’r sgetsh yn ein Eisteddfod ni ym mis Awst – cawn weld – ond cyn hynny mi fydd angen sgript go iawn arnom – wel falle …

Diolch unwaith yn rhagor Elin am ein trefnu a’n harwain at siwt brofiadau!