Llwyddiant i Sarn Helen yn ras 5k Tenovus

Owain Sgiv
gan Owain Sgiv

5k Tenovus Llanbed 2016Llwyddiant i redwyr Sarn Helen yn ras 5k Tenovus

Dros y penwythnos, fe gynhaliwyd ras redeg 5k Tenovus yn Llanbedr Pont Steffan wrth i dros hanner cant o redwyr brwd o‘r ardal ymgynnull i gymryd rhan mewn ras gyffrous ar fore dydd Sul oer ger Ysgol Bro Pedr.

Roedd yna dair ras wahanol ar y dydd ar gyfer oedrannau a lefelau gallu gwahanol.

Roedd y ras 5k yn gystadleuol tu hwnt, gydag aelodau o glwb rhedeg Sarn Helen yn cipio’r mwyafrif o’r gwobrau.

Buddugoliaethau i Sarn Helen

Enillydd y ras oedd Llewellyn Lloyd, 24, o glwb rhedeg Sarn Helen gydag amser cyflym o 18 munud a 7 eiliad. Enillydd y categori Dynion Agored oedd Simon Hall, 36, gydag amser terfynol o 18 munud a 11 eiliad, a Carwyn Davies, 39, yn drydydd ar ôl gorffen gydag amser o 18 munud a 34 eiliad. Y ddau hefyd yn aelodau o glwb rhedeg Sarn Helen.

Enillydd y categori dynion dros 40 oedd Kevin Pett, wrth iddo orffen gydag amser o 19 munud a 49 eiliad tra bod Richard Marks yn dod i’r brig yn y categori dros 50 wrth iddo orffen y ras yn bedwerydd gydag amser terfynol o 19 munud a 5 eiliad.

Enillydd y merched oedd Helen Willoughby o glwb Sarn Helen, sef trefnydd y ras a daeth a groesodd y llinell mewn amser terfynol cryf o 21 munud a 4 eiliad. Enillydd y categori Menywod Agored oedd Dee Jolly a orffennodd y ras mewn 21 munud a 28 eiliad. Eleri Rivers enillodd y categori menywod dros 35 gan groesi’r llinell derfyn mewn 22 munud a 26 eiliad, a Delyth Grimes oedd enillydd y categori Menywod dros 45 gydag amser o 24 munud a 11 eiliad.

5k Tenovus Llanbed 2016 2

Rhedwyr ifanc

Pleser oedd gweld cynifer o redwyr o bob oedran yn cymryd rhan yn y rasys 5k, 1.5k, a’r ras cynradd.

Enillydd y Bechgyn yn y ras 1.5k gydag amser o 8 munud a 22 eiliad oedd Daniel Warrendl, bachgen 8 mlwydd oed o Glwb Rhedeg Aberystwyth, tra bod Sara Thomas o glwb Sarn Helen yn ennill categori’r merched ar ôl gorffen gydag amser o 9 munud a 9 eiliad.

Yn y ras gynradd bu 35 o athletwyr y dyfodol yn rasio, gyda phawb yn derbyn medalau am redeg. Kai Allan oedd yn fuddugol yn ras y bechgyn, a Casi Gregson yn ennill ras y merched.

Fe wnaeth nifer o redwyr dan ddeunaw oed yn arbennig yn y ras 5k hefyd, fel Thomas Willoughby, 16, a ddaeth yn 5ed yn y ras gydag amser da o 19 munud a 15 eiliad. Thomas oedd enillydd y categori ieuenctid hefyd.

Fe wnaeth Gwion Payne, 13, orffen yn wythfed yn y ras gydag amser o 20 munud a 25 eiliad a gwelwyd perfformiadau addawol gan Daniel Willoughby, Jack Caulkett, Paulo Sausa ac Idris Lloyd gyda’r cyfan yn gorffen o yn yr ugain uchaf yn y ras.

“Fe aeth y diwrnod yn dda iawn, un o’r diwrnodau mwyaf llwyddiannus rydym wedi’i gael!” meddai Helen Willoughby, trefnydd yr achlysur.

“Rydym wedi codi £739.18 ar gyfer Tenovus sydd yn grêt, ac roedd e’n bleser i weld pawb yn gweiddi eu cefnogaeth wrth wylio”.

Roedd Maer y Dref sef y Cynghorydd David Smith hefyd yn bresennol i ddarparu’r gwobrau i’r enillwyr.

Roedd hi’n ddiwrnod llwyddiannus tu hwnt i Glwb Rhedeg Sarn Helen, gyda nifer o berfformiadau addawol o’r rhedwyr sydd yn addo’n dda erbyn y dyfodol.

 

Adroddiad: Tomos Rhys Jones