Eleni rydym yn dathlu pen-blwydd Cymdeithas Cerddwyr Llanbed yn 30 oed a daeth tyrfa dda ynghyd heddiw i gerdded a nodi’r achlysur.
Cwrddom ar y Rookery a cherdded cyrion y dref. Roeddem wedi bwriadu cerdded glannau’r Teifi, ond oherwydd y gwlybaniaeth, bu’n rhaid newid y trefniadau.
Dechreuodd 26 ohonon ni ar ein taith i gyfeiriad Ffynnonbedr, yn hen griw ac yn griw newydd. Aethom drwy fynwent Eglwys Sant Pedr ac o gwmpas Maesyderi, Bryn yr Eglwys a Phenbryn gan gerdded i lawr heibio’r Clwb Rygbi i Faesyfelin a Chwrt Dulais i dir Prifysgol y Drindod Dewi Sant, nôl trwy’r dref ac i gael cwpaned a lluniaeth yn Llain y Castell.
Cawsom dywydd teg ar hyd y daith a chwmni da. Treuliwyd y prynhawn yn hel atgofion am y dyddiau a fu gan drafod y llwybrau cerdded lleol a’r teithiau niferus a gynhaliwyd yn bell ac agos dros y blynyddoedd.
Torrwyd cacen pen-blwydd hardd gan bedwar ohonon ni’r aelodau gwreiddiol – Iory, Penny, Sid a finnau. Roedd y gacen wedi ei haddurno’n gelfydd gyda charreg filltir yn nodi’r blynyddoedd ar ei chopa.
Diolchaf am y blynyddoedd hapus o gerdded a gafwyd yn enwedig y gwmnïaeth, yr awyr iach a’r antur. Cyfuniad hyfryd y gallaf argymell i bawb.